Mae teras rhestredig Gradd II yr Abaty’n dyddio o oes Sarah Vivian, gwraig John Henry Vivian (1830au). Roedd hithau’n arddwr dawnus a gellir gweld olion ei gwaith hyd at heddiw ac mae’n parhau i ddylanwadu ar y gwaith adfer mae’r Brifysgol yn ymgymryd ag ef.

Un o nodweddion amlycaf teras yr Abaty yw’r goeden fagnolia fawr. Dros y degawdau, roedd yn draddodiad ymhlith myfyrwyr os oedd y goeden wedi dechrau blodeuo ac nid oeddech chi’n adolygu ar gyfer arholiadau’r haf, roedd problemau mawr gyda chi! 

Mae’r tiroedd o amgylch yr Abaty wedi’u cysylltu mewn ffordd gynhenid â threftadaeth y Brifysgol, gan gyfrannu at fioamrywiaeth y parcdir o’u cwmpas. Mae’r man agored syfrdanol hwn yn cynnig golygfeydd dros ddôl yr Abaty a Bae Abertawe ac mae ar agor i’r gymuned leol ymweld ag ef a’i fwynhau. Dyluniwyd y tirlunio a’r plannu i gyd-fynd â sut byddai’r gerddi wedi edrych yn ystod oes aur yr Abaty, wrth hefyd gynnwys amgylchedd bywiog a chroesawgar i’r campws ar yr un pryd.

A male student sitting in the grounds of Singleton Abbey - purple flowers are in bloom
Outside the Singleton Park Campus Abbey Building. Ivy and beautiful red leaves cover the building.
A female wearing a light blue top sits on a bench in the grounds of Singleton Abbey.