Grŵp o bobl yn edrych ar sgrîn gyda'i gilydd

I gysylltu â'n myfyrwyr a'n graddedigion dawnus, hysbysebwch eich swyddi gwag yn y Parth Cyflogaeth, ein hysbysfwrdd swyddi digidol am ddim. Caiff ei ddefnyddio gan ein myfyrwyr a'n graddedigion a gallwch hysbysebu unrhyw rolau yn y DU, gan gynnwys lleoliadau gwaith, interniaethau, swyddi rhan-amser a gyrfaoedd i raddedigion.

Y Parth Cyflogaeth:

  • Caiff ei ddarparu am ddim i gyflogwyr, myfyrwyr neu raddedigion
    Gallwch hysbysebu cynifer o swyddi gwag ag yr hoffech heb unrhyw derfynau amser.
  • Caiff ei arwain gan gyflogwyr 
    Cewch lanlwytho'ch swyddi gwag eich hun a chael mynediad llawn i'w golygu fel y dymunwch.
  • Darperir cymorth llawn
    Os oes angen cymorth technegol arnoch, neu gyngor ar sut i wneud eich hysbyseb yn ddeniadol i fyfyrwyr a graddedigion, mae ein harbenigwyr cyflogadwyedd yma i'ch helpu. Gallwn gynnig cymorth hefyd yn ystod y broses dethol a chyfweld.

Sylwch: os ydych am gymryd intern cyflogedig, cysylltwch â ni i drafod eich gofynion ariannu yn y lle cyntaf.

Creu proffil cyflogwr