Ar draws dau gampws glan môr godidog, mae bywyd ym Mhrifysgol Abertawe'n cynnig profiad myfyrwyr croesawgar a bywiog lle daw astudiaethau academaidd a bywyd ar yr arfordir ynghyd. O'r parcdir o amgylch Campws Singleton i leoliad glan môr modern Campws y Bae, mae myfyrwyr yn dod yn rhan o gymuned amrywiol a chefnogol sy'n adnabyddus am ei hawyrgylch hamddenol a'i hymdeimlad cryf o berthyn.
Bywyd y campws
Archwilia'r holl bethau sydd gan fywyd ar y campws i'w gynnig yn Abertawe
Dau gampws, un profiad myfyrwyr sy'n ffynnu
Cyfleusterau a gwasanaethau sy'n gwella eich profiad ar y campws
Lleoedd i fwyta, yfed a chymdeithasu
Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig amrywiaeth fywiog o leoedd croesawgar i ymlacio a chysylltu. Mae amrywiaeth o gaffis a mannau bwyd ar y ddau gampws yn cynnig rhywbeth sy'n addas i bawb, o rywbeth i'w fwyta wrth fynd i brydau bwyd wrth y bwrdd.
Gall myfyrwyr hefyd fwynhau awyrgylch bywiog ym Mar Chwaraeon JCs ar Gampws Singleton, sy'n berffaith ar gyfer gwylio chwaraeon yn fyw a chymdeithasu, ac mae Y Twyni'n lle delfrydol i fyfyrwyr gymdeithasu, astudio ac ymlacio ar Gampws y Bae.
Lleoedd i fwyta ar y campws
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd
Ar Gampws Singleton, bydd gennyt fynediad at amrywiaeth o gyfleusterau gan gynnwys Pwll Cenedlaethol Cymru, trac athletau, campfa, a chaeau chwaraeon aml-ddefnydd, gan gynnig cyfleoedd o nofio a chodi pwysau i chwaraeon tîm.
Mae Campws y Bae yn darparu opsiynau cyfleus ar y safle, gan gynnwys caeau awyr agored, campfa, neuadd chwaraeon ac ardaloedd gemau aml-ddefnydd, gyda sesiynau hyblyg drwy gydol y dydd i'th helpu i gadw'n actif ochr yn ochr â'th astudiaethau.
Gyda'i gilydd, mae'r cyfleusterau hyn yn cynnig rhywbeth i bawb, p'un a wyt ti'n cadw'n heini, yn rhoi cynnig ar weithgaredd newydd neu'n cymryd rhan mewn chwaraeon cymdeithasol neu gystadleuol.
Parc Chwaraeon Bae Aberatwe
Llyfrgelloedd a lleoedd astudio
Mae gan fyfyrwyr fynediad at lyfrgelloedd a lleoedd astudio modern ar draws y ddau gampws, sy'n darparu amgylcheddau cyfforddus gyda digon o le ar gyfer astudio ac ymchwil.
Gelli di gadw lle ar gyfer lleoedd astudio unigol neu leoedd astudio i grwpiau, cael mynediad at gasgliadau digidol a ffisegol eang, a hyd yn oed benthyg gliniaduron neu adnoddau eraill er mwyn cefnogi dy ddysgu.
Wedi'u cefnogi gan staff cyfeillgar a phroffesiynol, mae amrywiaeth o gymorth, hyfforddiant a gwasanaethau sy'n benodol i bynciau ar gael er mwyn dy helpu i wneud y mwyaf o'r adnoddau sydd ar gael.
Llyfrgelloedd a mannau astudio
Lleoedd Awyr Agored
Rydym yn cynnig amgylchedd awyr agored heb ei ail i'n myfyrwyr, gyda thiroedd a gerddi hardd sy'n derbyn gofal arbennig ar y ddau gampws
Mae lleoliad Campws Singleton yn ddelfrydol, wrth ymyl y traeth ac o fewn pellter cerdded hwylus o Barc Singleton, ac mae Campws y Bae hefyd yn elwa o leoliad glan môr godidog ger Twyni Crymlyn, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI).
Gyda'i gilydd, mae'r lleoliadau naturiol hyn yn creu cefndir llonydd ac ysbrydoledig i fywyd bob dydd yn y brifysgol, gan gynnig lle i fagu nerth newydd ac ymlacio rhwng astudio a gweithio.
Ein tiroedd a'n mannau awyr agored
Y Celfyddydau a Diwylliant
Ar Gampws Singleton, gall myfyrwyr archwilio'r Ganolfan Eifftaidd arobryn, sy'n gartref i gasgliad Eifftaidd a gydnabyddir yn rhyngwladol, a mwynhau theatr, cerddoriaeth, comedi a ffilmiau yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin.
Y tu hwnt i'r campws, mae Abertawe'n cynnig sîn celfyddydau a diwylliant amrywiol, sy'n cynnwys amrywiaeth o orielau celf, amgueddfeydd, theatrau, a lleoliadau perfformiad byw, gan greu amgylchedd diwylliannol bywiog sy'n gwella bywyd myfyrwyr.