Fel rhan o'n Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd, anogwn deithio llesol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae cerdded neu feicio i'n campysau'n wych ar gyfer eich iechyd a'ch lles, ac ar gyfer yr amgylchedd hefyd. I'r rheini ohonoch na all gerdded neu feicio i'r campws, rydym yn hyrwyddo cludiant cyhoeddus fel opsiwn teithio cynaliadwy a fforddiadwy.

Rydym yn gwerthfawrogi mai gyrru yw’r unig opsiwn i rai myfyrwyr a staff. Os oes yn rhaid i chi yrru, gallwch gael gwybodaeth am hawlenni parcio a pharcio ceir yma.

Cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am eich opsiynau teithio cynaliadwy: