Os nad ydych yn gallu cerdded neu feicio i'n campysau, rydym yn eich annog i ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

Mae cludiant cyhoeddus yn ffordd ddiogel, fforddiadwy a chynaliadwy o fynd hwnt ac yma.

Mae rhwydwaith Uni Bws First Cymru'n cysylltu ein dau gampws a chanol y ddinas. Mae amrywiaeth o opsiynau tocynnau a gallwch gael gostyngiadau gwych os ydych yn cyflwyno cais am Fy Ngherdyn Teithio

Mae'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch am deithio i Brifysgol Abertawe ac oddi yno ar gludiant cyhoeddus ar gael isod:

Gwybodaeth am Rhwydwaith Uni Bws First Cymru - Dewch i wybod eich gwasanaethau bws newydd

Cipolwg ar docynnau bws

Tocyn myfyriwrCostCost gyda Fy Ngherdyn Teithio
Blwyddyn lawn y Brifysgol - (Dilys am 52 wythnos o'r dyddiad cychwyn) £440 £290

Blwyddyn academaidd hyd at fis Mehefin 2024

£385 £254
Tymor 1 £170 £115
Tymor 2 £170 £115
Tymor 3 £115 £75

Tocyn Haf Myfyriwr - (11eg Mehefin - 24ain Medi)

£180 £119

Amser Tymor Myfyriwr 3 + opsiwn tocyn Haf (23 Ebrill - 24 Medi)

£290 £191

*Gellir defnyddio Tocynnau Bws ar unrhyw Wasanaeth First Cymru yn yr ardal Bae Abertawe. I gael rhagor o wybodaeth am holl opsiynau Tocyn First Cymru, gweler isod.

Fy Ngherdyn Teithio – Tocyn Bws sy’n rhoi Disgownt i bobl 16-21 oed sy’n byw yng Nghymru

Opsiynau Tocynnau First Cymru

Gwasanaethau Rheilffordd

GWASANAETHAU TACSI

Y Diweddaraf

Cludiant Cyhoeddus - Cwestiynau Cyffredin