Astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig astudiaethau ôl-raddedig o safon ragorol mewn lleoliad arfordirol ysblennydd. O raddau meistr i astudiaethau PhD, rydym yn cynnig rhaglenni ôl-radd mewn amrywiaeth eang o bynciau.

Wrth i’n canran gyffredinol o ymchwil o’r radd flaenaf sy’n rhagorol yn rhyngwladol gynyddu o 80% yn 2024 i 86% yn 2021 (REF 2021), mae ein holl gyrsiau ôl-raddedig wedi’u llywio gan y datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil ac arloesi. Dewch i wybod mwy am sut mae ymchwil Abertawe yn newid bywydau ar draws y byd heddiw.