Croeso i Ŵyl Wyddoniaeth Abertawe
Yr ŵyl fwyaf o'i bath yng Nghymru!
Bydd Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe'n dychwelyd ar 28ain - 29ain Hydref 2023 yn fyw ac ar y safle, a bydd ‘Mwy o'r Ŵyl Wyddoniaeth’ yn ystod yr wythnos ganlynol.
Dyma gyda mwy na 30 o weithgareddau AM DDIM nad oes rhaid i chi gadw lle arnynt – galwch heibio i'w harchwilio! Bydd cyfle i archwilio dôl morwellt, adeiladu batri a theganau wedi'u pweru gan yr haul, darganfod sut roedd hen Eifftwyr yn mymïo eu meirw a dysgu caru cynrhon!
Bydd 15 digwyddiad y gellir cadw lle arnynt dros y penwythnos, gan gynnwys sioe ‘Swigod Enfawr’ a sesiwn ‘Gwyddoniaeth Beryglus’ wefreiddiol. Dewch i archwilio'r rîff gwrel gyda Techniquest neu gwrdd ag ‘Angenfilod Go Iawn o'r Môr’ gydag Incredible Oceans, sy'n adnabyddus am gyfathrebu am wyddoniaeth. Yr holl bethau hyn a mwy!
Mae'r hwyl a'r dysgu'n parhau'r wythnos ganlynol gyda ‘Mwy o'r Ŵyl Wyddoniaeth’, sy'n cynnwys dysgu am y morfil danheddog mawreddog – yr Orca – a thynnu llun o benglog maint go iawn.
Mae'r Ŵyl yn ymdrechu i fod yn ddigwyddiad hygyrch iawn, felly mae'n hynod boblogaidd - rydym yn argymell eich bod yn cadw lle'n gynnar ar gyfer llawer o'r digwyddiadau.
Archwiliwch ein holl ddigwyddiadau am ddim a chadwch lle ar y digwyddiadau yma.