Ymwadiad pwysig - Darllenwch

Mae Prosbectws Israddedig Prifysgol Abertawe 2027 yn cynnwys gwall hysbys.

Ar dudalen 41, o dan yr adran ‘Gwyddorau Biofeddygol’, mae ein tabl cyrsiau yn rhestru’r radd israddedig Microbioleg ac Imiwnoleg, ond nid yw’n nodi’r gofynion mynediad llawn, sy’n cynnwys Safon Uwch Bioleg a chymwysterau cyfatebol gan gyrff dyfarnu eraill.

Archwiliwch Microbioleg ac Imiwnoleg, BSc/MSci a’i gofynion mynediad llawn ar ein gwefan.

Mae ein gwefan yn darparu’r wybodaeth fwyaf diweddar am ein holl raglenni, gan gynnwys eu gofynion mynediad llawn.

Fersiynau hygyrch o'r prosbectws israddedig:

Fformat testun cyfoethog 2026: Prosbectws Israddedig 2026 Prifysgol Abertawe

Mae Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe (SUTC) yn medru darparu fersiynau braille a fersiynau print bras o'r prosbectws ar gyfer darpar fyfyrwyr sydd eu hangen. Rydym yn darparu'r gwasanaeth hwn ar alw ac am ddim. I gyflwyno cais, cysylltwch â ni.