Cynghreiriau Cymdeithasol
Os nad oes gennych ddiddordeb mewn chwaraeon cystadleuol, ond eich bod yn dal i fod am fwynhau gêm reolaidd gyda ffrindiau, beth am ymuno ag un o'n cynghreiriau cymdeithasol?
Mae nifer o'n clybiau yn cynnal cynghreiriau cymdeithasol rheolaidd, gan gynnwys:
- Pêl-droed mewnfurol 11 bob ochr i ddynion
- Pêl-fasged i ddynion
- Pêl-rwyd i fenywod
Rydyn ni wrthi'n datblygu ein cynghreiriau cymdeithasol a gobeithio y gallwn gynnig rhagor o gyfleoedd cyn hir, felly cadwch lygad...
Yn y cyfamser, ewch i'r tudalennau clybiau ar wefan Undeb y Myfyrwyr i weld beth sy'n cael ei gynnig.