Gŵyl chwaraeon yw Varsity Cymru a chynhelir 48 o gemau calendr ar draws amrywiaeth o chwaraeon yn ystod y twrnamaint, wrth i'r cyfranogwyr gystadlu am Darian Varsity Cymru. Pan ddaw'r digwyddiad i Abertawe, cynhelir y chwaraeon amrywiol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol y Prifysgolion ac uchafbwynt y digwyddiad fydd cynnal gemau rygbi timau'r dynion a'r menywod yn Stadiwm Liberty.

Cipolwg ar y gorffennol

Chwaraewyd Gêm Sefydlu Gêm Varsity Cymru ym 1997 ym mhrifddinas Cymru, yng nghartref Clwb Rygbi Caerdydd, sef Parc yr Arfau, Caerdydd. Chwaraeodd timau'r ddwy brif Brifysgol yng Nghymru yn y gêm, sef Caerdydd ac Abertawe, a mabwysiadwyd y model "Varsity" hynod lwyddiannus, gan roi'r holl elw i Oxfam.

Yn y blynyddoedd cynnar, chwaraewyd gêm Varsity Cymru bob yn ail flwyddyn ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd ac ym Mharc San Helen, sef cartref Clwb Rygbi Abertawe. Yn hanesyddol, mae Prifysgol Abertawe wedi magu enw da am berfformio yn nigwyddiadau Varsity Cymru a, hyd heddiw, mae ei thimau wedi ennill 13 o gemau Varsity.

Mae Prifysgol Abertawe wedi gallu dewis ystod eang o chwaraewyr hynod ddawnus yn gyson, megis y Cymry, Alun Wynn Jones, Ritchie Pugh a Dwayne Peel. Yn 2007, roedd gan Abertawe 11 o chwaraewyr rhyngwladol FIRA yn y tîm o oedrannau amrywiol, gan ennill y gêm ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd.

 

Lluniau o varsity Cymru 2019

Varsity 2019

CYFLEOEDD NODDI

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i noddi Varsity Cymru, cliciwch yma.