MAE CYFOETH O GYFLEOEDD NODDI AR GAEL YN CHWARAEON ABERTAWE
I gael rhagor o wybodaeth am ein cyfleoedd noddi, anfonwch e-bost at ein tîm masnachol.
I gael rhagor o wybodaeth am ein cyfleoedd noddi, anfonwch e-bost at ein tîm masnachol.
P'un a ydych yn awyddus i wella ymwybyddiaeth o'ch brand, ymgysylltu â'r gymuned leol neu gynyddu refeniw, gallwch wella eich amcanion busnes drwy noddi cyfleusterau Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael, gan gynnwys:
Byrddau Hysbysebu
Cefnogwch eich hoff dîm a sicrhewch fod eich brand yn rhan amlwg o'r cyffro drwy fyrddau hysbysebu sydd ar gael ym mhob un o'n cyfleusterau allanol, gan gynnwys y Trac Athletau, y Caeau Rygbi a'r Caeau Hoci. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys y canlynol:
Cyfle i'ch Brand Feddiannu Cyfleuster yn Llwyr
Sicrhewch fod eich brand yn sefyll allan ac yn cyrraedd ein cefnogwyr amrywiol a brwdfrydig yn ogystal â'r gymuned leol drwy fanteisio ar gyfle i'ch brand feddiannu un o'n cyfleusterau chwaraeon allweddol yn llwyr. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys y canlynol:
Prif Noddwr Chwaraeon Abertawe
Cefnogwch Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe a dewch yn Brif Noddwr brand Chwaraeon Abertawe gyda chyfleoedd i gael sylw ar draws holl asedau Chwaraeon Abertawe. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys y canlynol:
Mae ein cynllun ysgoloriaeth yn anelu at gwmpasu'r sbectrwm eithriadol o dalent y mae pobl ifanc yn ei datgelu mewn chwaraeon unigol a chwaraeon tîm.
Rydym yn chwilio am fyfyrwyr sydd nid yn unig yn bodloni'r gofynion academaidd arferol i gael eu derbyn, ond sydd hefyd wedi dangos gallu eithriadol mewn chwaraeon.
Mae ein rhaglen ysgoloriaeth chwaraeon hefyd yn ein galluogi i helpu athletwyr talentog i gyflawni eu potensial a chyflawni eu nodau chwaraeon, yn ystod eu cyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Fodd bynnag, mae gwahanol lefelau o ysgoloriaethau ar gael, gan ddibynnu ar lefel y cyflawniad chwaraeon. O dan rai amgylchiadau, bydd angen cyllid ychwanegol ar ein hathletwyr sy'n astudio er mwyn helpu i leddfu'r pwysau ariannol sydd arnynt wrth barhau i ddilyn eu gyrfa chwaraeon.
Fel arall, gallwch greu eich ysgoloriaeth chwaraeon eich hun er mwyn helpu i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o athletwyr sy'n astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Gallai eich ysgoloriaeth ddarparu'r cymorth sydd ei angen er mwyn i'n hathletwyr sy'n astudio barhau i ragori.
Bydd gennych hawliau enwi llawn dros yr ysgoloriaeth ac amrywiol fuddiannau ychwanegol eraill yn gysylltiedig â'ch cefnogaeth hael. I gael gwybod mwy, cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth.
Edrychwch ar rai o'n hysgolorion isod er mwyn gweld sut y gallai cyllid ychwanegol gennych eu galluogi i barhau i gyflawni eu nodau.
Lewis Fraser – Nofio – 2il Flwyddyn Peirianneg Sifil
Cyflawniadau Uchaf:
'Rwyf wedi cyrraedd rownd derfynol y pencampwriaethau Ewropeaidd i ieuenctid ddwywaith ac rwy'n dal dwy record Cymru i bobl ifanc hŷn. Byddai'r arian y byddwn yn ei gael fel rhan o'm hysgoloriaeth yn cyfrannu at wersylloedd hyfforddi yn Nhwrci a Miami eleni, a fyddai'n fy helpu i hyfforddi ar gyfer treialon Olympaidd yn Llundain ym mis Ebrill 2020'.
Chloe Davies – Cic-focsio – 2il Flwyddyn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Cyflawniadau Uchaf:
'Byddwn yn defnyddio'r arian a gaf i fynd i fwy o gystadlaethau rhyngwladol yn ystod 2019, gan ei bod yn ddrud iawn ceisio mynd i'r lleoliadau ar ôl talu am hediadau, gwesty a ffioedd cystadlu'.
Cai Davies – Rygbi – Blwyddyn 1af Rheoli Busnes
Cyflawniadau Uchaf:
Rhian Evans – Pêl-rwyd, Criced ac Athletau – Blwyddyn Gyntaf Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Cyflawniadau Uchaf: Wedi cynrychioli Cymru yn 'Netball Europe' am dair blynedd yn olynol gan ennill saith cap a chystadlu yn Gibraltar, Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Cefais yr anrhydedd hefyd o fod yn gapten ar dîm dan 17 oed Cymru mewn gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon. Rwyf wedi cynrychioli tîm dan 21 oed Cymru yn 'Netball Europe' ac rwy'n aelod o'r sgwad ar hyn o bryd – rwyf wedi ennill tri chap hyd yn hyn. Ar hyn o bryd, rwy'n aelod o sgwad dan 19 oed y Dreigiau Celtaidd ac wedi cael fy nethol i hyfforddi gyda sgwad hŷn y Dreigiau Celtaidd yn ystod y cyfnod cyn dechrau'r tymor. Rwyf wedi cynrychioli Cymru ym mhob grŵp oedran gan gynnwys lefel hŷn mewn criced ac wedi ennill capiau yn yr amrywiol grwpiau oedran. Rwyf wedi cynrychioli Cymru mewn Athletau ym mhencampwriaethau SIAB dan 17 oed a'r Gemau Celtaidd ac wedi ennill dwy fest i Gymru yn taflu maen a thair fest i Gymru yn taflu disgen. Rwyf hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Athletwraig Iau y Flwyddyn Abertawe dair blynedd yn olynol.
'Mae'r rhan fwyaf o'r arian a gaf fel rhan o'm hysgoloriaeth yn cael ei wario ar gostau teithio. Ar hyn o bryd, rwy'n teithio i Gaerdydd ddwywaith yr wythnos ar gyfer hyfforddiant pêl-rwyd. Yn ogystal, mae llawer o'r gemau rydym yn eu chwarae yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled y DU e.e. chwaraeais ym Mhrifysgol Loughborough bythefnos yn ôl a bu'n rhaid i mi wneud fy nhrefniadau teithio fy hun. Rwyf hefyd yn defnyddio'r arian i brynu offer – er mwyn atal anafiadau, mae'n hanfodol bod yr offer a brynaf (esgidiau rhedeg) o ansawdd uchel. Gan fy mod yn gwneud gwahanol fathau o hyfforddiant ac yn hyfforddi saith gwaith yr wythnos, mae angen amrywiaeth o ddillad hyfforddi arnaf'.
Ioan Wall – Hoci – Blwyddyn 1af Peirianneg
Cyflawniadau Uchaf:
Mae grŵp dethol o chwaraeon yn rhan o raglen chwaraeon perfformiad uchel y Brifysgol. Mae gan bob un o'r chwaraeon perfformiad uchel dîm penodol sy'n gweithio'n agos â'r hyfforddwyr i roi pob cyfle i'r athletwyr berfformio ar y lefel uchaf. Mae ein chwaraeon perfformiad uchel hefyd yn cael: gwasanaeth gwyddor chwaraeon, rheoli ffordd o fyw i athletwyr, ffisiotherapi a chymorth cryfder a chyflyru.
Rhagor o wybodaeth am ein chwaraeon perfformiad uchel cyfredol.
Mae gan Chwaraeon Abertawe amrywiaeth enfawr o glybiau chwaraeon cystadleuol ac anghystadleuol. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn yn Chwaraeon Abertawe. Drwy ein dewis enfawr o glybiau a chyfleoedd eraill, rydym yn anelu at greu awyrgylch sy'n ei gwneud hi'n hawdd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae ein timau yn cystadlu mewn cystadlaethau BUCS (Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain), cystadlaethau lleol, cystadlaethau ar gyfer chwaraeon penodol neu'n chwarae mewn cynghreiriau mewnfurol anghystadleuol.
Mae Farsiti Cymru, sef un o'r digwyddiadau amlchwaraeon mwyaf i fyfyrwyr yn y DU, yn cynnig cyfleoedd noddi cyffrous i'ch busnes a fydd yn gwarantu sylw i'ch brand.