DARGANFOD CHWARAEON A GWEITHGARWCH CORFFOROL YN ABERTAWE

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn credu ym mhŵer chwaraeon i wella bywydau ac adeiladu cymunedau. Rydym yn hyrwyddo chwaraeon i bawb gyda'r nod o gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i'n myfyrwyr a'n staff gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol a fydd yn eu helpu i berfformio ar eu gorau.

P'un a yw chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn bethau newydd i chi neu eich bod yn athletwr elît, bydd y cyfleoedd cywir ar gael i chi yma yn Abertawe.

Mae ein rhaglen Bod yn ACTIF yn cynnig gweithgareddau ar lefel dechreuwr i'ch rhoi ar ben ffordd os nad ydych yn barod i ymuno ag un o'n 56 o glybiau chwaraeon. Fodd bynnag, os ydych chi am ychydig o gystadleuaeth hwyl a chyfeillgar, gallwch chi ystyried ein Cynghreiriau Cymdeithasol. Os ydych am gystadlu ar lefel uwch, rydym yn cynnig clybiau chwaraeon cystadleuol a hamdden, a rhaglenni perfformiad uchel o'r radd flaenaf mewn nifer o chwaraeon allweddol.

Cliciwch ar y delweddau isod i ddechrau eich taith gyda Chwaraeon Abertawe.