Panayiotis ar Lwyfan y Byd
Bu'r ysgolhaig chwaraeon Panayiotis Panaretos ar lwyfan y byd ym mis Gorffennaf, pan fu'n cynrychioli ei wlad yn 20fed Bencampwriaeth Chwaraeon Dŵr y Byd yn Fukuoka, Japan.
Trefnwyd y digwyddiad nofio rhyngwladol uchel ei fri gan y Ffederasiwn Nofio Rhyngwladol (World Aquatics), gan ddod â 2400 o nofwyr gorau'r byd ynghyd o 200 o wledydd i gystadlu mewn 75 o ddigwyddiadau ar draws chwe disgyblaeth: Nofio, plymio, plymio uchel, polo dŵr, nofio artistig a nofio mewn dŵr agored.
Credir bod tua 500,000 o bobl wedi ymweld â'r digwyddiad nofio byd dros 17 diwrnod, mewn amryw o leoliadau ar draws 5ed ddinas fwyaf Japan, lle bu Panayiotis, sy'n astudio cyfrifiadureg yn Abertawe, yn cystadlu yn y ras broga 100m; cyfle anhygoel i gynrychioli Cyprus ar lwyfan y byd!
Dysgwch fwy am brofiad Panayiotis fel ysgolhaig chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe yma.