Os ydych am gyfuno astudio yn y brifysgol â chwaraeon perfformiad uchel, mae Ysgoloriaethau Chwaraeon Prifysgol Abertawe'n cynnig pecyn cymorth cynhwysfawr i'ch helpu i gyflawni eich nodau yn y byd academaidd a maes chwaraeon.

Yma yn Abertawe, mae ein tîm profiadol yn deall y pwysau sy’n deillio o gydbwyso astudio am radd a gofynion hyfforddi ar gyfer chwaraeon elît. 

LLwybr i Yrfa Ddeuol Lwyddiannus

Ni oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei hachredu gan TASS (Cynllun Ysgoloriaethau i Athletwyr Dawnus), ac rydym yn falch o fod wrth wraidd datblygu gyrfaoedd deuol.

Mae gennym ddau swyddog cymorth athletwyr penodol sy'n gweithio'n unigol gyda'n hathletwyr, fel mentoriaid perfformiad uchel, gan roi arweiniad iddynt a'u grymuso i gydbwyso blaenoriaethau a rheoli eu hymrwymiadau niferus, o ddydd i ddydd a thrwy gydol y flwyddyn.

Gemau'r Olympaidd a'r Gymanwlad i gystadlaethau Cwpan y Byd a Phencampwriaethau’r Byd, rydym yn helpu ein myfyrwyr i gystadlu ar y lefelau uchaf ym myd chwaraeon, gan weithio'n agos gyda hwy i sicrhau nad yw chwaraeon nac astudiaethau academaidd yn cael eu hesgeuluso.

Ymagwedd Sy'n Canolbwyntio Ar Yr Unigolyn

Drwy raglen Ysgoloriaethau Chwaraeon Prifysgol Abertawe, rydym yn cynorthwyo ein hysgolheigion chwaraeon ym mhob agwedd ar eu bywyd academaidd a’u gyrfa chwaraeon, gan weithio’n agos gyda thimau yn y cyfadrannau i sicrhau hyblygrwydd academaidd o ran dysgu ac asesiadau, fel y gallant barhau i gystadlu ar y lefel uchaf wrth barhau â’u hastudiaethau.

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn canolbwyntio ar yr unigolyn, gan roi cymorth datblygu cyfannol i athletwyr drwy ein tîm amlddisgyblaethol, sy’n cynnwys hyfforddwyr chwaraeon, arbenigwyr cryfder a chyflyru, maethegwyr, ffisiotherapyddion, seicolegwyr chwaraeon ac ymgynghorwyr ar berfformiad a ffordd o fyw. 

Sgiliau Bywyd

Rydym hefyd yn cynnal cyfres o weithdai drwy gydol y flwyddyn, sy’n trafod amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys ysgrifennu CVs a llythyrau eglurhaol, atal dopio ac iechyd menywod, ac mae arbenigwyr yn eu meysydd yn darparu dosbarthiadau meistr difyr ac ymarferol, gan uwchsgilio ein myfyrwyr sy'n athletwyr i ffynnu a llwyddo.

Pecyn Cynhwysfawr O Gymorth i Athletwyr

Mae athletwyr ysgolheigaidd yn derbyn mynediad am ddim i'n cyfleusterau chwaraeon, ein campfeydd a'n pwll, yn ogystal â pharcio am ddim ar y campws a chymorth personol drwy ein tîm amlddisgyblaethol.

Mae cymorth ariannol ar gael hefyd ar gyfer rhai o'n hysgoloriaethau, yn ogystal â mynediad at linell gymorth gyfrinachol ac adnodd sgwrsio byw, gan roi cymorth iechyd meddwl ddydd a nos, 365 niwrnod o'r flwyddyn.

Isod, cewch wybodaeth fwy manwl am ein hysgoloriaethau, gan gynnwys sut i gyflwyno cais, a chewch y cyfle i ‘gwrdd’ â rhai o'n hysgolheigion chwaraeon anhygoel.

Cymerwch Gip Ar Ysgoloriaethau Chwaraeon Prifysgol Abertawe:

Newyddion Diweddaraf Am Ysgolheigion