Enillwch radd wrth anelu at lwyddiant ym maes chwaraeon

Nod Ysgoloriaeth Chwaraeon Prifysgol Abertawe yw cefnogi myfyrwyr sy'n athletwyr talentog ac sy'n cystadlu ar y lefelau uchaf yn y gamp o'u dewis.

Beth mae Ysgolheigion Chwaraeon Prifysgol Abertawe'n ei gael?

Mae ein hysgolheigion chwaraeon yn cael pecyn cymorth personol i ymdrin â’u sefyllfa a diwallu eu hanghenion unigol. Gall hyn gynnwys:

  • Mynediad am ddim i gampfeydd a phwll nofio'r Brifysgol.
  • Parcio am ddim ar Gampws Singleton a Champws y Bae.
  • Hyfforddiant cryfder a chyflyru unigol.
  • Addysg i atal camddefnyddio cyffuriau.
  • Cyfleusterau adsefydlu wedi'u teilwra ar gyfer anafiadau chwaraeon.
  • Cymorth ffordd o fyw mewn perthynas â pherfformiad.
  • Mynediad at gyfleusterau dadansoddi perfformiad.
  • Cymorth seicoleg chwaraeon.
  • Cymorth maeth.
  • Profion ffitrwydd.
  • Hyblygrwydd a chymorth academaidd drwy'r Cynllun Ysgoloriaeth i Athletwyr Talentog (TASS).
  • Cyfres o weithdai wedi'u cynllunio i fodloni gofynion cydbwyso gyrfa ddeuol, gan wella perfformiad a chefnogi cyflogadwyedd a chynllunio ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
  • Cymorth ariannol (hyd at £2000).

Y Cynllun Ysgoloriaeth i Athletwyr Talentog (TASS)

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn falch ein bod yn chwarae rhan flaenllaw wrth gefnogi athletwyr talentog ym maes addysg yng Nghymru. Ni oedd y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael ein hachredu gan y Cynllun Ysgoloriaeth i Athletwyr Talentog (TASS) ac rydym wedi cael Achrediad Gyrfa Ddeuol TASS, sy'n cydnabod ein hymrwymiad i helpu athletwyr sy'n astudio i ragori'n academaidd ac yn eu chwaraeon wrth astudio yn Abertawe.

Mae Achrediad Gyrfa Ddeuol yn cynrychioli partneriaeth unigryw rhwng gwasanaethau cymorth a staff academaidd o bob rhan o'r Brifysgol, ac mae'n dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod llwybrau gyrfa ddeuol ar gael i athletwyr sy'n astudio.

Drwy ddarparu hyblygrwydd academaidd, yn ogystal â'r amgylchedd a'r cymorth priodol, credwn y gall athletwyr sy'n astudio ffynnu a chyflawni eu potensial chwaraeon a'u potensial addysgol.

I gael rhagor o wybodaeth am TASS, neu i gael gwybod sut i gael gafael ar gymorth, ewch i wefan TASS neu anfonwch e-bost i TASS.