Yma ym Mhrifysgol Abertawe, ein nod yw bod yn ddewis cyntaf i athletwyr elît a pherfformiad uchel sydd am gael profiad academaidd a gyrfaol deuol. Rydym wedi datblygu a chynyddu ein rhaglenni perfformiad uchel i sicrhau bod ganddynt atyniad byd-eang ac rydym yn hyderus y bydd ein henw da am ragoriaeth chwaraeon yn annog mwy o fyfyrwyr o bedwar ban byd i weld Abertawe fel eu prif gyrchfan.

Er mwyn cefnogi ein huchelgeisiau, rydym yn falch o lansio ein Hysgoloriaeth Chwaraeon Rhyngwladol Elît (EISS) newydd ar gyfer athletwyr rhyngwladol sy'n dymuno rhagori'n academaidd yn ogystal ag ym maes chwaraeon.

Mae aelodau ein tîm perfformiad uchel a'n staff cymorth ym Mhrifysgol Abertawe'n weithwyr proffesiynol cymwysedig a phrofiadol yn y maes sy'n meddu ar ddealltwriaeth sylweddol o bwysau a gofynion perfformiad elît a gyrfa ddeuol. Rydym yn cynnig pecyn cymorth heb ei ail i athletwyr sy'n llwyddo ar raglen yr Ysgoloriaeth Chwaraeon Rhyngwladol Elît er mwyn sicrhau eu bod yn llwyddo'n academaidd ac ym maes chwaraeon.

Mae pecyn cymorth yr Ysgoloriaeth Chwaraeon Rhyngwladol Elît yn cynnwys:

  • Ysgoloriaeth ffïoedd dysgu gwerth £5,000 y flwyddyn am dair blynedd o astudiaethau israddedig.
  • Lle gyrfa ddeuol ar raglen perfformiad uchel y Brifysgol drwy’r Cynllun Ysgoloriaethau i Athletwyr Dawnus (TASS), sy'n uchel ei fri ac sy'n cynnig hyblygrwydd a chymorth academaidd.
  • Ymarferydd dynodedig a fydd yn canolbwyntio ar eich ffordd o fyw a'ch perfformiad, gan roi cymorth unigol pwrpasol.
  • Cynllun cryfder a chyflyru unigol, gan deilwra sesiynau i'ch anghenion.
  • Cymorth seicoleg chwaraeon.
  • Cymorth maeth.
  • Cymorth ffisiotherapi ac osteopatheg.
  • Mynediad at gyfleusterau sganio CT ac MRI ar y safle.
  • Dulliau personol o wella ar ôl anafiadau chwaraeon.
  • Profion ffitrwydd.
  • Addysg atal dopio.
  • Mynediad at gyfres o weithdai â'r nod o helpu i gydbwyso gofynion gyrfa ddeuol, gan wella perfformiad a chefnogi cyflogadwyedd a chynlluniau gyrfaol ar gyfer y dyfodol.
  • Mynediad am ddim at gampfeydd a phwll nofio'r Brifysgol.
  • Parcio am ddim ar safleoedd Campws Parc Singleton a Champws y Bae.

Darllenwch amodau a thelerau’r Ysgoloriaeth Chwaraeon Rhyngwladol Elît i gael gwybod a ydych yn gymwys i gyflwyno cais.

Cyflwyno cais:

A wnewch chi gynnwys y canlynol:

  • Enw
  • Oedran
  • Chwaraeon
  • Y Rhaglen Academaidd sydd o ddiddordeb i chi
  • Cenedligrwydd

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno cais, a wnewch chi e-bostio mynegiant o ddiddordeb i'r tîm ysgoloriaethau chwaraeon.

Bydd y cyfnod cyflwyno ceisiadau'n dod i ben ar 31 Mawrth 2024.