Cymhwysedd ac amodau a thelerau:

  1. Bydd yr Ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr israddedig rhyngwladol amser llawn sy'n talu ffïoedd yn unig. Rhaid bod derbynnydd yr Ysgoloriaeth yn ariannu ei astudiaethau ei hun. Rhaid bod derbynnydd yr Ysgoloriaeth wedi'i bennu’n fyfyriwr tramor at ddibenion ffïoedd. Os bydd y statws ffïoedd yn newid ar unrhyw adeg pan fydd y cynnig ar waith, bydd angen tynnu'r Ysgoloriaeth yn ôl.
  2. Ni fydd myfyrwyr sy'n cofrestru ar gwrs Sylfaen yn gymwys i dderbyn y dyfarniad hwn. Darperir rhaglenni Blwyddyn Sylfaen ar wahân gan ‘Y Coleg, Prifysgol Abertawe (Navitas)’, y mae ganddo ei amodau a'i delerau ei hun. Nid yw myfyrwyr sy'n symud ymlaen o'r Coleg, Prifysgol Abertawe (Navitas) yn gymwys chwaith.
  3. Mae'r Ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr sy'n cyfranogi yn ein campau perfformiad uchel diffiniedig yn unig, sef rygbi i ddynion, nofio (dynion a menywod), pêl-droed i ddynion, hoci i fenywod, tennis bwrdd (dynion a menywod).
  4. Dyrennir yr Ysgoloriaeth ar sail gystadleuol, felly efallai na fydd pob cais yn llwyddiannus. Bydd Pwyllgor yr Ysgoloriaeth Chwaraeon Rhyngwladol Elît (EISS) yn dyfarnu ysgoloriaethau i ymgeiswyr sydd, ym marn y Pwyllgor, yn bodloni'r meini prawf perfformiad penodedig a gofynnol.
  5. Swm yr Ysgoloriaeth yw £5,000 y flwyddyn, am bob un o dair blynedd o astudiaethau israddedig. Fe'i dyfernir ar sail didyniad o ffïoedd dysgu pob blwyddyn.
  6. Gellir dal yr Ysgoloriaeth ar yr un pryd ag unrhyw ysgoloriaeth neu fwrsariaeth arall y gall deiliad yr Ysgoloriaeth ei derbyn gan y Brifysgol.
  7. Nid oes modd trosglwyddo'r Ysgoloriaeth.
  8. Yn ogystal â'r dyfarniad ariannol, bydd deiliaid yr Ysgoloriaeth yn derbyn:
    • Lle gyrfa ddeuol ar raglen perfformiad uchel y Brifysgol drwy’r Cynllun Ysgoloriaethau i Athletwyr Dawnus (TASS), sy'n uchel ei fri.
    • Ymarferydd dynodedig a fydd yn canolbwyntio ar eich ffordd o fyw a'ch perfformiad, gan weithio gyda chi a rhoi cymorth unigol i chi.
    • Cynllun cryfder a chyflyru unigol, gan hefyd deilwra sesiynau i'ch anghenion.
    • Cymorth seicoleg chwaraeon.
    • Cymorth maeth.
    • Cymorth ffisiotherapi.
    • Mynediad at gyfleusterau sganio CT ac MRI ar y safle.
    • Dulliau personol o wella ar ôl anafiadau chwaraeon.
    • Profion ffitrwydd.
    • Addysg atal dopio.
    • Mynediad at gyfres o weithdai â'r nod o helpu i gydbwyso gofynion gyrfa ddeuol, gan wella perfformiad a chefnogi cyflogadwyedd a chynlluniau gyrfaol ar gyfer y dyfodol.
    • Hyblygrwydd a chymorth academaidd drwy'r Cynllun Ysgoloriaethau i Athletwyr Dawnus (TASS).
    • Mynediad am ddim at gampfeydd a phwll nofio'r Brifysgol.
    • Parcio am ddim ar safleoedd Campws Parc Singleton a Champws y Bae.
  9. Bydd Adran Farchnata'r Brifysgol yn cysylltu â deiliaid yr Ysgoloriaeth ar ôl iddynt dderbyn dyfarniad, a bydd yn rhaid iddynt gyfranogi mewn gweithgarwch marchnata o bryd i'w gilydd sy'n cynnwys creu cynnwys fideos a ffotograffiaeth, blogiau ac ymddangosiadau mewn digwyddiadau (ond heb fod yn gyfyngedig i'r rhain).
  10. Ar ôl derbyn dyfarniad, os bydd un o ddeiliaid yr Ysgoloriaeth yn tynnu'n ôl o'r Brifysgol, efallai y bydd yn rhaid iddo ad-dalu unrhyw ddyfarniad y mae'r Brifysgol wedi'i dalu, yn llawn neu'n rhannol, yn ôl penderfyniad y Pwyllgor.
  11. Gyda chymeradwyaeth Pwyllgor yr Ysgoloriaeth Chwaraeon Rhyngwladol Elît (EISS), os ystyrir bod cynnydd (yn academaidd a/neu o ran perfformiad ym maes chwaraeon) un o ddeiliaid yr Ysgoloriaeth yn anfoddhaol, gellir tynnu'r Ysgoloriaeth yn ôl. Os bydd y myfyriwr yn teimlo nad oes cyfiawnhad dros wneud hynny, gall apelio'n ysgrifenedig at Bwyllgor yr Ysgoloriaeth Chwaraeon Rhyngwladol Elît (EISS).
  12. Os bydd y Pwyllgor yn barnu nad oes unrhyw ymgeiswyr sy'n deilwng o gael dyfarniad, mae Pwyllgor yr Ysgoloriaeth Chwaraeon Rhyngwladol Elît yn cadw'r hawl i atal rhai o'r Ysgoloriaethau neu bob un ohonynt.