Diwedd anhygoel i'r diwrnod wrth i dîm rygbi'r dynion gymryd y fuddugoliaeth!
Daeth yr heulwen i dywynnu dros Abertawe eleni, a chyda thorf a hanner, roedd Parc Chwaraeon Bae Abertawe'n llawn bwrlwm a chyffro ymysg môr o wyrdd a choch, gyda'r nifer mwyaf erioed o fyfyrwyr yn bresennol!
Dechreuodd y diwrnod yn gynnar gyda'r golff yng Nghlwb Golff Clun ac yna'r clwb athletau ar y trac! Erbyn 10am, roedd Parc Chwaraeon Bae Abertawe dan ei sang gyda myfyrwyr hapus yn cefnogi eu timau! Er i ganlyniad cyffredinol Tarian Varsity fynd o blaid Caerdydd eleni, dangosodd ein timau chwarae teg rhagorol, gan ddechrau pob gêm â phenderfyniad a balchder!
Eleni, gwnaeth Prifysgol Abertawe ddyblu ei sgôr 2023 o 6 i 13.5 gyda chanlyniad cyffredinol y Darian yn 13.5 i 32.5 i Gaerdydd! Cafwyd buddugoliaethau arbennig i Abertawe yn y campau canlynol:
- Rhwyfo
- Rygbi’r Gynghrair
- Futsal Dynion
- Hoci Menywod
- Polo Canŵio Dynion
- Rygbi Glasfyfyrwyr Dynion
- Pêl-droed Menywod
- Nofio
- Golff
- Gemau awyrol
- Ffrisbi Eithafol Dynion
- Polo Dŵr dynion
- Cleddyfaeth Dynion
- Rygbi Dynion
Ar ôl diwrnod prysur yn cefnogi'r timau ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, aeth myfyrwyr a staff i Stadiwm Swansea.com i wylio uchafbwynt y dydd - gemau rygbi'r dynion a'r menywod! Brwydrodd tîm y menywod yn galed drwy gydol y gêm, ond yn anffodus enillodd Caerdydd gyda sgôr derfynol o 12-71.
I gloi'r diwrnod, sicrhaodd tîm y dynion fuddugoliaeth anhygoel, gan ennill cwpan rygbi Varsity ar gyfer 2024, gyda sgôr derfynol o 44-28! Meddai Peter Vickers a arweiniodd y tîm i'w fuddugoliaeth "Does gennyf ddim geiriau!" Ar ôl y flwyddyn rydym wedi'i chael, gyda'r bechgyn yn troi'r cyfan ar ei ben fel hyn, mae'n dangos ein cymeriad a'n bod ni'n haeddu bod yng nghystadleuaeth Rygbi Uwch BUCS!".
Unwaith eto, mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi dangos eu hymddygiad arbennig cyn y digwyddiad hwn ac ar ddiwrnod Varsity Cymru, ac yn parhau i ddangos penderfyniad a pharch anhygoel!
Nid yw'r fyddin werdd a gwyn byth yn siomi wrth iddyn nhw ddod yn eu miloedd i gefnogi ein chwaraewyr! Diolch i'r holl fyfyrwyr, staff, partneriaid, noddwyr a phawb a oedd yn rhan o wneud y diwrnod hwn yn un arall i'w gofio - welwn ni chi'r flwyddyn nesaf yn y brifddinas!
Edrychwch ar y lluniau o'r diwrnod yma.