Mynd â Rygbi Menywod i'r lefel nesaf!
Pleser oedd cynnal cynhadledd hyfforddi Menywod a Merched Undeb Rygbi Cymru ym Mhrifysgol Abertawe y mis hwn gydag Ioan Cunningham (Prif Hyfforddwr Tîm Menywod Undeb Rygbi Cymru) a Liza Burgess (Prif Hyfforddwr Llwybr Menywod a Merched Undeb Rygbi Cymru).
Roedd hwn yn gyfle anhygoel i wahodd ein hyfforddwyr cenedlaethol i gyflwyno sesiwn hyfforddi i chwaraewyr ein Canolfan Datblygu Chwaraewyr a'r ffocws oedd egwyddorion amddiffyn a thechneg y llinell.
Roedd y sesiwn hon yn cynnwys dau arddangosiad ymarferol a sesiwn yn yr ystafell ddosbarth a oedd yn canolbwyntio ar greu diwylliant ar gyfer darpar hyfforddwyr cymunedol. Rhoddodd y sesiynau hyn wybodaeth a thechnegau gwerthfawr i'r hyfforddwyr er mwyn gwella rygbi menywod a merched ar lefel llawr gwlad.
Ni yw'r cyntaf i gynnig y gwasanaeth hwn ar gyfer rygbi menywod a merched wrth i ni ymdrechu i ddatblygu mwy o fentrau i gryfhau Canolfan Datblygu Chwaraewyr Gorllewin Cymru Prifysgol Abertawe a chreu hyb i’r gamp.
Ceir rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Datblygu Chwaraewyr .