Medi Harris, Swansea University swimmer

Myfyrwyr Abertawe yn Disgleirio yng Ngemau'r Gymanwlad

Llongyfarchiadau i'n myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe am eu llwyddiant yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham, yn cynrychioli Tîm Cymru a Thîm Cyprus yn ystod y digwyddiad amlchwaraeon rhyngwladol.

Cystadleuodd cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr o Brifysgol Abertawe mewn Nofio, Bowls Lawnt a Hoci, gyda'r seren newydd Medi Harris yn ennill medal Efydd yn y digwyddiad nofio dull cefn 100m, gydag amser o 59.62 eiliad, ac yn cael ei churo gan ddeiliad presennol record y byd ac un o gyn-ddeiliaid record y byd yn unig.

Yn gynharach eleni, cyflawnodd Medi ei hamser personol gorau erioed, sef 59.24 eiliad, a fyddai wedi bod yn ddigon iddi gymryd rhan yn rownd derfynol y Gemau Olympaidd yn Tokyo y llynedd. Torrodd y nofwyr addawol o Brifysgol Abertawe, Lewis Fraser a Rebecca Sutton, hefyd dir newydd yn ystod y gemau. Llwyddodd Fraser i dorri 0.2 eiliad oddi ar ei amser personol gorau ar gyfer 100m Pili Pala gan orffen fel y 10fed cyflymaf yn y rowndiau cyn-derfynol, a llwyddodd Sutton i dorri dros draean o eiliad oddi ar ei hamser personol gorau yn y rownd gyn-derfynol ar gyfer 100m dull rhydd i ferched. Methodd y ddau â chael lle yn y rownd derfynol o drwch blewyn.

Cafwyd perfformiadau cryf hefyd gan y ddau ddyn ifanc talentog, Joe Small a Liam White, yn y digwyddiad 100m dull cefn, gyda'r ddau yn dod yn eithriadol o agos i gael lle yn y rownd derfynol, y cyntaf ag amser o 55.22 eiliad a'r ail ag amser o 55.68 eiliad.

Cafodd y myfyrwyr Panayiotis Panaretos a Sofoklis Mouglis hefyd eu dewis i gynrychioli Tîm Cyprus yn y digwyddiadau nofio, gan gystadlu yn y 100m dull nofio ar y frest a'r 100m dull cefn yn unigol, ac yn y ras gyfnewid gymysg 4x100m i ddynion.

Mewn chwaraeon eraill, chwaraeodd un o'n graddedigion Jacob Draper ran bwysig i Dîm Cymru yn ystod ei ymgyrch hoci, gan sicrhau buddugoliaethau yn y camau carfan dros Dîm Canada a Thîm Ghana ar ei ffordd at orffen â dosbarthiad cyffredinol yn y 6ed safle.

Cystadleuodd un o'n graddedigion Nyrsio a chapten Tîm Cymru, Anwen Butten, am y chweched tro yng Ngemau'r Gymanwlad yn y digwyddiad bowls lawnt, gan ennill record am gystadlu yn y nifer uchaf o gemau. Ar ôl y gemau, cyhoeddodd Butten ei bod yn ymddeol o gystadlu mewn twrnameintiau mawr i Gymru, gan gau'r llenni ar yrfa arbennig.

Dywedodd Imelda Phillips, Rheolwr Chwaraeon Perfformiad Prifysgol Abertawe:

“Llongyfarchiadau i'n holl fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr ar eu llwyddiant chwaraeon yn Ngemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham. Mae pawb ym Mhrifysgol Abertawe yn hynod falch o'r hyn y llwyddodd ein hathletwyr i'w gyflawni yn ystod yr haf cyffrous hwn o ddigwyddiadau chwaraeon.

“Dyma'r nifer uchaf o athletwyr a gafodd eu dewis ar gyfer pencampwriaeth fawr o'n rhaglen nofio perfformiad uchel ac mae'n brawf o ymroddiad ac ymrwymiad ein hathletwyr sy'n astudio, ac o waith ardderchog ein hyfforddwyr, ein staff cymorth, a rhaglen gyrfa ddeuol y Cynllun Ysgoloriaeth i Athletwyr Talentog. Rydym wrth ein bodd â'r ffordd y gwnaethant gynrychioli eu hunain a'r Brifysgol ar y llwyfan byd-eang, yn ystod pennod gyffrous i chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe!’’

Darllenwch fwy yma

Rhannu'r stori