Tra byddwch yn astudio yn Abertawe, byddwn yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth iechyd a lles i chi.  Mae Prifysgol Abertawe ac Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymedig i hyrwyddo amgylchedd diogel a chefnogol i chi, fel y gallwch wneud y gorau o’ch amser yma.

Helô, Abigail ydw i, Swyddog Lles Undeb y Myfyrwyr!

Astudiais y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe am y 4 blynedd diwethaf a byddaf yn cymryd rôl Swyddog Lles am y flwyddyn academaidd nesaf. Mae fy rôl yn cynnwys gweithio'n agos gyda Chanolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, yn enwedig o ran eu hiechyd a'u lles. Rwy’n cael fy ysgogi i greu newid cadarnhaol ac yn gobeithio y bydd fy angerdd dros helpu pobl yn cynorthwyo fy rôl fel Swyddog Lles.

Llun proffil o Abigail, y swyddog Lles yn Undeb y Myfyrwyr

Cyfeiriadur Dinas Iach

Gallwch chwilio am ystod anferthol o wasanaethau yn Abertawe a all helpu i wella eich iechyd a’ch lles

Mae dros 400 o wasanaethau ar gael mewn dros 80 o gategorïau!

Felly os ydych chi angen cyngor neu gefnogaeth ynglyn â materion ariannol, edrych ar ôl rhywun, dysgu, gweithio neu wirfoddoli, lles cyffredinol neu gyngor iechyd penodol, fe ddewch o hyd i sefydliad neu grwp a all eich helpu. Mae amserau agor, unrhyw gostau a chrynodeb o’r gwasanaeth ar gael.

Mae ar gael dros y ffôn hefyd - gofynnwch am y Cyfeiriadur Dinas Iach ac am y math o gefnogaeth yr ydych chi’n edrych amdano.

Gallwch chwilio gan ddefnyddio’ch cod post eich hunan i weld beth sy’n agos atoch chi.

Llwythwch y boster Cyfeiriadur y Ddinas Iach 

Logo 'Cyfeiriadur Dinas Iach - Adnodd cymunedol lles Abertawe ar gyfer lles ac iechyd'