Amdanom Ni

Mae Ffydd@BywydCampws yma ar gyfer myfyrwyr, staff ac aelodau'r gymuned. Mae croeso i bawb gael cymorth a phrofiad sy’n cyfoethogi eu bywydau.

Ein cenhadaeth yw cynnig lle diogel i bobl, waeth beth yw eu ffydd, eu diwylliant, eu rhyw, neu eu tueddfryd rhywiol; archwilio ffydd mewn amgylchedd agored a chynhwysol; meithrin ysbryd o gydweithredu rhwng mathau gwahanol o ffydd a chynnig cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol ac anfeirniadol i unrhyw un sy’n chwilio am hyn.

Os hoffech siarad â rhywun yn Ffydd@BywydCampws, mae croeso i chi e-bostio staff gweinyddol y tîm a fydd yn gallu eich cyfeirio at yr unigolyn priodol.