Myfyrdod dan Arweiniad

Oes angen amser i chi eich hun arnoch? Ydych chi'n teimlo'n bryderus neu'n anniddig, neu wedi cael llond bol?

Mae ein sesiynau myfyrdod, dan arweiniad ein cynrychiolydd Ffydd Mel, yn ffordd wych o neilltuo 'amser personol' mewn diwrnod prysur neu ddechrau ymarfer myfyrdod dyddiol.

Yn dechrau ddydd Llun 30 Medi 2024, ymunwch â ni bob pythefnos ar ddydd Llun am 8.30am am sesiwn myfyrdod 30 munud o hyd. Does dim angen profiad i ymuno â'r sesiynau hyn. Mae'r sesiwn yn agored i bawb ac wedi'i dylunio i fod yn ofod generig, cynhwysol lle mae croeso i bawb. Dewch i dawelu eich meddwl am yr wythnos sydd i ddod mewn amgylchedd distaw a chefnogol.

Mae buddion myfyrdod yn rhy niferus i ni eu rhestru, ond dyma ychydig o'r manteision ar gyfer eich lles, eich meddwl a'ch corff:

  • Lleihau gorbryder
  • Hybu meddylfryd cadarnhaol
  • Gwella hunanymwybyddiaeth
  • Gwell gallu i ganolbwyntio
  • Gwella cwsg

Y cyfan sydd ei angen i gymryd rhan yw lle cyfforddus a thawel. Does dim angen profiad!

 

Myfyrdod Dyddiol -

Tawelwch, Newid a

Llais Mewnol