Digwyddiadau Cristnogol

Sesiynau Addoli Cristnogol Rheolaidd ar y Campws.

Gwasanaethau'r Ewcharist Sanctaidd

Dydd Mawrth, 12.00pm yn Y Goleudy ar Gampws Singleton.

Dechrau ar 12 Medi 2023

-------------------------------

Gwasanaethau Boreol Weddi anffurfiol

Dydd Mercher am 9.00am yn Y Goleudy ar Gampws Singleton.

Yn rhedeg o 2il Awst

Cynhelir y gwasanaethau hyn yn y traddodiad Anglicanaidd (yr Eglwys yng Nghymru), ond mae croeso i bawb sy'n chwilfrydig am ffydd.

-------------------------------

Offeren yr Eglwys Gatholig

Dydd Mercher am 1.15pm yn Yr Hafan ar Gampws y Bae

Dydd Gwener am 1.15pm yn Y Goleudy ar Gampws Singleton.

-------------------------------

Cyfarfodydd Gweddi Cristnogol Cydenwadol

Canol dydd (12.00pm) ar ddydd Iau yn Y Goleudy ar Gampws Singleton.

-------------------------------

Cyfarfodydd y Crynwyr

Dydd Llun cyntaf y mis, 1pm yn Y Goleudy ar Gampws Singleton.

Ar drydydd dydd Llun y mis am 1pm yn Yr Hafan ar Gampws y Bae.

Dechrau ar 2il Hydref 2023

-------------------------------

Gweddïau Rhyng-ffydd dros Heddwch

Cynhelir ar Zoom ar ddydd Llun am 1pm.

Cysylltwch â ni drwy e-bostio faith.campuslife@abertawe.ac.uk i gael y ddolen Zoom.

Digwyddiadau untro

Cymorth Caplaniaeth/Ffydd

Mae'r Parchedig Gaynor Jones-Higgs yn gaplan Cristnogol a gyflogir gan y Brifysgol yn amser llawn i fugeilio Cristnogion yng nghymuned y Brifysgol. Mae wedi'i hordeinio'n offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae Gaynor yn gweithio yn Y Goleudy ar Gampws Singleton.

Mae'r caplan a gyflogir gan y Brifysgol i fod yn rheolwr hefyd wedi'i ordeinio'n offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru.

Mae Gaynor yn cydlynu tîm o gaplaniaid cysylltiol a chynrychiolwyr ffydd gwirfoddol sy'n cynorthwyo ein gwaith bugeiliol. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran cwrdd â'r tîm.

Gaynor Jones-Higgs
Ian Patterson

Mae'r caplan cysylltiol Ian Patterson (Bedyddiwr) yn ymweld â'r Goleudy ar brynhawn dydd Mercher fel arfer ac mae ar gael i roi cymorth caplaniaeth.

 

Mae modd cysylltu â'r holl gaplaniaid, caplaniaid cysylltiol a chynrychiolwyr ffydd drwy e-bostio faith.campuslife@abertawe.ac.uk

Mannau Gweddïo / Tawel ar y Campws

Mae ystafelloedd gweddïo/tawel fel arfer ar agor o 8.30am tan 8.00pm yn Yr Hafan ar Gampws y Bae (ger y Neuadd Chwaraeon) ac yn Y Goleudy ar Gampws Singleton (ar yr ochr i Dŷ Fulton).

Cliciwch YMA am gyfarwyddiadau i'r Goleudy.

Cliciwch YMA am gyfarwyddiadau i'r Hafan.

Cymdeithasau Myfyrwyr a grwpiau Cristnogol lleol