Amgylchedd Diogel Ar Gyfer Dysgu Ac Ymchwil o Safon Fyd-Eang

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig profiad diogel a chroesawgar i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr.

Mae ein tîm cyfeillgar o weithwyr diogelwch proffesiynol, sy'n rhan annatod o fywyd y campysau, yn cynnig gwasanaeth diogelwch 24/7 ar draws ein campysau. Mae gan y tîm ymroddedig brofiad helaeth o ddarparu gwasanaethau diogelwch i'r Brifysgol, ac mae wedi'i hyfforddi i gynnig gwasanaeth ymateb cyntaf gan gynnwys cymorth cyntaf. 

Mae Gwasanaeth Diogelwch ac Ymatebwyr Cyntaf Prifysgol Abertawe’n dîm o weithwyr proffesiynol diogelwch cymwys a phrofiadol o ystod eang o gefndiroedd sy’n amrywio o’r fyddin a’r gwasanaethau brys i arbenigwyr gwasanaethau cwsmeriaid a pharafeddygon.

Yn ymrwymedig i Werthoedd Gwasanaethau Proffesiynol y Brifysgol, ein nod yw hwyluso amgylchedd diogel a chroesawgar sy’n hyrywddo rhagoriaeth, arloesedd a menter ynghyd â chyfleoedd cyfartal, amrywiaeth a chynhwysiant.

Ar waith 24 awr y dydd, 365 niwrnod y flwyddyn, mae’r tîm yn darparu ystod eang o wasanaethau:

  • Ymateb mewn argyfwng (ymatebwyr cyntaf, 24/7 i ddigwyddiadau diogelwch ac andwyol neu argyfyngau)
  • Atal troseddau’n rhagweithiol
  • Monitro larymau a CCTV
  • Patrolau diogelwch
  • Cymorth cyntaf (safon uwch)
  • Cymorth cyntaf iechyd meddwl ac ymyriad mewn hunanladdiad
  • Rheoli contractwyr ac ymwelwyr
  • Rheoli traffig
  • Cefnogi digwyddiadau
  • Dadansoddi bygythiadau
Students walking out of lectures on Singleton Park Campus

SafeZone

Mae SafeZone yn ap diogelwch personol ar gyfer myfyrwyr a staff y Brifysgol sy’n gwella ein gwaith. Rydym yn cynghori holl staff a myfyrwyr y Brifysgol i lawrlwytho’r ap SafeZone sy’n cynnig mynediad yn syth i’n tîm diogelwch drwy eich ffôn symudol.

Cwestiynau cyffredin am Safezone