Eich canllaw chi i symud i mewn i'ch cartref yn Abertawe

Myfyrwyr yn sefyll gan edrych dros draeth Campws y Bae  

Mae ambell beth i'w ystyried cyn i chi symud i mewn i sicrhau eich bod chi wedi ymbaratoi cymaint â phosib, gan gynnwys sut rydych chi'n cynllunio addurno eich ystafell ar gyllideb myfyriwr! 

Rhaid i fyfyrwyr sy'n cyrraedd mwy na 3 diwrnod ar ôl dyddiad dechrau'r contract, gyflwyno ‘cais i gyrraedd yn hwyr’.

Gallwch archebu dillad gwely, pecynnau ystafell ymolchi a chegin, ynghyd ag ategolion, ymlaen llaw trwy UniKitOut. Bydd eich nwyddau'n aros i chi pan fyddwch yn cyrraedd eich llety a fydd yn gwneud eich proses o symud i mewn mor hwylus â phosib.
Bydd myfyrwyr Prifysgol Abertawe'n arbed 10% oddi ar bopeth pan fyddant yn dyfynnu SWANSEA10 wrth dalu.

 

Symud i mewn

Rydym yn gobeithio eich bod chi'n gyffrous am symud i mewn i'ch llety yn Abertawe. I helpu i wneud y broses mor llyfn â phosib, rydym ni wedi casglu gwybodaeth ynghyd i'ch helpu chi i symud i mewn.