Sut i sicrhau eich cartref i fyfyrwyr

Myfyrwyr yn gwenu ar liniadur

Gwneud cais am lety

Mae gwneud cais am lety ym Mhrifysgol Abertawe yn syml, a bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu i ganfod eich ffordd drwy'r broses.

Gallwch wneud cais cyn gynted ag y byddwch yn derbyn eich rhif myfyriwr, y bydd yr adran Dderbyn yn ei anfon atoch.

Rydym yn ymdrechu i'ch rhoi chi yn y neuadd breswyl o'ch dewis. Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn bosib. Rydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau am lety, felly rydym yn eich argymell i wneud cais cyn gynted â phosib.

Os oes angen help arnoch i gwblhau eich cais, gallwch wylio ein fideos isod, neu mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost: accommodation@abertawe.ac.uk

Proses ymgeisio

I fyfyrwyr sy'n astudio pwnc gyda hyd cwrs ansafonol, mae'r broses cyflwyno cais ychydig yn wahanol. Gallwch chi ganfod yr holl wybodaeth mae ei hangen arnoch drwy fynd i'r dudalen am gyrsiau o hyd ansafonol.

  1. Gwnewch gais cyn gynted ag y byddwch yn derbyn eich rhif myfyriwr. Fel gallwch chi ddychmygu, diwrnod canlyniadau Safon Uwch yw ein diwrnod prysuraf o'r flwyddyn, felly peidiwch â'i gadael hi tan fod gennych eich canlyniadau i wneud cais.
  2. Pan fyddwch yn barod, dylech chi greu cyfrif llety ar ein porth preswylfeydd a dilyn y cyfarwyddiadau ar bob cam (Gair o gyngor: dylech chi bob amser ddefnyddio'r eiconau Yn ôl a Nesaf ar y dudalen, nid ar eich porwr)
  3. Gwnewch nodyn o unrhyw beth y gallai fod yn rhaid ei ystyried yn ystod eich cais, megis cyflyrau meddygol neu ofynion ychwanegol
  4. Pan fyddwch chi wedi gorffen eich cais, byddwn yn anfon e-bost awtomatig atoch sy'n nodi manylion eich cais a gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif i ddiweddaru eich dewisiadau neu wirio statws eich cais unrhyw bryd
  5. Ni fydd diweddaru eich dewis yn effeithio ar y dyddiad gwneud eich cais cyntaf.

Fideo sut i gofrestru

Fideo sut i gyflwyno cais