Rydym yn deall y gall gwneud cais trwy'r system Glirio fod yn gyfnod gofidus i rai, ac y byddech chi eisiau sicrhau bod popeth mewn trefn cyn i chi symud i'ch cartref newydd ym mis Medi a dechrau ar eich taith gyffrous gyda ni.
Cynnig Llety Gwarantedig
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ceisio gwneud pethau mor hawdd â phosibl i chi. Ar gyfer myfyrwyr Clirio, rydym yn cynnig Llety Gwarantedig. Gwnewch gais am lety wedi ei reoli gan y Brifysgol cyn Awst yr 20fed i gael cynnig llety wedi ei warantu.
Mae gwneud cais yn rhad ac am ddim a'r cynharaf y gwnewch chi gais, y gorau!
Cynnig Tocyn Bws
Profwch y gorau o ddau fyd! Os ydych yn fyfyriwr, sydd wedi dod trwy Clirio, sy'n astudio ar Gampws Parc Singleton, mae gennych chi nawr gyfle unigryw i fwynhau teithio am ddim ar fysiau (gyda Wi-Fi) tra'n byw ar Gampws y Bae neu ein llety premiwm yn True. Rydym yn cynnig tocyn bws am ddim gwerth £450 i'ch helpu i deithio'n hawdd rhwng ein dau gampws a chymorth gyda chostau byw. Peidiwch â cholli'r fargen wych hon - gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu eich llety Prifysgol Abertawe heddiw a datgloi profiad myfyrwyr Abertawe llawn.
Darllenwch yr Amodau a Thelerau am y manylion llawn.