Beth yw clirio?

Mae clirio yn agored i unrhyw un nad yw eisoes yn dal cynnig gan brifysgol neu goleg, ac mae lle ar y cyrsiau o hyd.

Mae'n rhedeg o'r 5ed o Orffennaf tan ganol mis Medi pan mae'r tymor yn dechrau.

Cofrestrwch i gadw mewn cysylltiad a chael y manylion diweddaraf

Cofrestrwch am ddiweddariadau Clirio

Pam y byddwn i'n defnyddio clirio?

Mae nifer o resymau pam y gallwch chi ddewis mynd trwy glirio:

  • Nid ydych wedi cyflawni'r graddau yr oeddech yn eu disgwyl
  • Rydych chi wedi cyflawni graddau gwell na'r disgwyl
  • Rydych chi wedi newid eich meddwl am y brifysgol rydych chi eisiau astudio ynddi
  • Rydych chi eisiau newid i gwrs arall.

Beth bynnag yw'r rheswm, gall Clirio fod yn gyfle i sicrhau lle prifysgol sy'n hollol iawn i chi!

Sut mae Clirio yn gweithio?

Gallwch wirio 'UCAS' i weld a ydych chi'n gymwys i Glirio.

Ni fydd UCAS yn anfon unrhyw beth yn y post i ddweud wrthych a ydych chi'n gymwys, felly mae'n bwysig eich bod chi'n gwirio ar-lein.

Os ydych chi'n gymwys ar gyfer Clirio bydd botwm 'Add Clearing choice' yn ymddangos ar eich sgrin 'Choices' yn UCAS, a gallwch ei ddefnyddio i dderbyn lle ar gwrs a gynigiwyd i chi trwy Glirio.

Beth yw dyddiadau Clirio 2023?

Mae clirio ar agor rhwng Gorffennaf a Medi. Dyma'r dyddiadau allweddol:

30 Mehefin - Dyddiad cau ceisiadau cyffredinol

5 Gorffennaf  - Lleoedd Clirio yn mynd yn fyw

17 Awst - Diwrnod canlyniadau Safon Uwch: ffoniwch ni 0808 175 3071

Eicon o galendr

Ydw i'n gymwys ar gyfer Clirio?

Byddwch yn gymwys ar gyfer Clirio os:

  • Rydych chi'n gwneud cais ar ôl 30 Mehefin
  • Nid ydych yn dal unrhyw gynigion gan brifysgolion neu golegau rydych wedi gwneud cais iddynt
  • Ni chadarnheir eich lle ar ôl cyhoeddi canlyniadau arholiadau

 

Sut i wneud cais am Glirio?

Dilynwch y camau hyn a byddwch yn barod ar gyfer Clirio 2023.

    1. Ar ddiwrnod y canlyniadau gwiriwch UCAS. Bydd eich statws cais yn dweud wrthych a ydych yn gymwys ar gyfer Clirio.
    2. Edrychwch ar wefan y brifysgol i weld pa gyrsiau sydd ar gael yn ystod Clirio.
    3. Cysylltwch â'ch prifysgolion ar y rhestr fer a siaradwch ag ymgynghorydd am eich opsiynau. Bydd angen:
      • Eich Graddau
      • Dewis cwrs
      • Rhif UCAS
      • Rhif Clirio
    4. Mynnwch gynnig! Fel arfer mae gennych 24 awr i dderbyn cynnig cyn y bydd yn cael ei ryddhau yn ôl i'r pwll Clirio.
    5. Os ydych chi am dderbyn, ewch i UCAS, fe welwch 'Add a Clearing option', mewnbynnwch eich prifysgol yma.
      Os ydych chi'n mynd trwy Clirio, peidiwch gofidio, bydd Abertawe yn rhoi cyfle i chi ac yn gweld beth yw'r opsiwn orau i chi
      sy'n astudio Geneteg Feddygol

      Pryd mae Clirio yn cau?

      Gall hyn ddibynnu ar bob sefydliad ond mae Clirio yn Abertawe yn gallu gorffen mor hwyr a mis Hydref os oes dal lle ar y cyrsiau.

      Os na gawsoch chi na derbyn unrhyw gynigion, cysylltwch â'ch prifysgol o ddewis gan fod rhai yn cymryd ymgeiswyr hwyr.

      Os ydych chi'n ansicr cysylltwch â Thîm Derbyn Prifysgol Abertawe i drafod eich opsiynau.

      Sut i sicrhau Cyllid Myfyrwyr os af trwy Glirio?

      Cymerwch gip ar ein Canllaw Cyllid Clirio i gael gwybodaeth ar sut i sicrhau Cyllid Myfyrwyr.

      Ydi hi'n rhy hwyr i wneud cais am lety?

      Gall myfyrwyr sy'n gwneud cais yn ystod Clirio wneud cais am lety'r Brifysgol unwaith y byddant wedi cwblhau eu cais cwrs, gan ddefnyddio eu rhif adnabod UCAS. Os nad oes rhif adnabod UCAS gan y myfyriwr, gallant wneud cais unwaith y byddant wedi derbyn eu rhif myfyriwr gan y Brifysgol (byddwch yn derbyn y rhif ar ôl cyflwyno'ch cais cwrs). Gwnewch gais am lety cyn yr 8fed o Hydref i gael cynnig llety wedi ei warantu. 

      Dysgwch ragor am Lety i fyfyrwyr sy'n gwneud cais yn ystod Clirio

      Beth yw UCAS Extra?

      Mae UCAS Extra yn wasanaeth am ddim sy'n caniatáu i chi barhau i wneud ceisiadau am gyrsiau addysgu uwch, hyd yn oed os ydych wedi defnyddio'ch pum dewis gwreiddiol eisoes, ar yr amod eich bod wedi gwneud cais drwy UCAS ac nad ydych yn dal unrhyw gynigion nac yn aros am benderfyniad ar unrhyw un o'ch pum cais gwreiddiol.

      Gallwch wneud cais drwy UCAS Extra o 23 Chwefror tan 4 Gorffennaf eleni. Os nad ydych chi wedi cael unrhyw gynigion ar ôl y dyddiad hwn, byddwch yn dal i allu gwneud cais am le yn y brifysgol drwy'r system Glirio.

      Cymerwch gip ar ein Canllaw i UCAS Extra i gael mwy o wybodaeth.

      Beth yw hunan-ryddhau?

      Os ydych chi am ddod i Brifysgol Abertawe ond eisoes yn dal lle mewn prifysgol arall, gallwch hunan-ryddhau eich hun i mewn i'r broses Clirio.

      Darganfyddwch sut mae'n gweithio yn ein Canllaw Hunan-Ryddhau.

      Pam astudio yn Abertawe?

      Mae ein campysau glan-môr godidog a chymuned cyfeillgar yn gwneud Abertawe yn lleoliad dymunol i fyfyrwyr o bob cwr o’r byd, sy’n galluogi’r bobl sy’n ymuno â ni i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sy’n eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd llewyrchus a llwyddiannus.

      Mae ein ffigurau’n siarad drostynt eu hunain, rydym yn 15fed yn y DU am foddhad â'r cwrs ac ar y brig yng Nghymru yn y Guardian University Guide 2023. Daethom ymysg yr 20 prifysgol orau yn y DU yn y StudentCrowd University Awards 2022.

      Ond peidiwch â chymryd ein gair ni amdano, cymerwch gip ar pam mae Rinal, myfyriwr Osteopathi blwyddyn olaf yn meddwl bod ‘Abertawe yn lle gwych i astudio’, yn ei Chanllaw i Abertawe.

      Oes dal cwestiynau gennych chi am Glirio?

      Edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin i weld y wybodaeth ychwanegol rydym ni wedi ei gynnwys i ateb rhai o'r cwestiynau mae myfyrwyr yn aml yn gofyn yn ystod Clirio - o gwestiynau am fywyd myfyrwyr i sut mae'r broses Clirio'n gweithio.