Cyflwyno Cais i Brifysgol Abertawe

Os oes gennyt ti anabledd, cyflwr meddygol hirdymor, Anhawster Dysgu Penodol, Cyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth a/neu gyflwr iechyd meddwl, nid oes rheswm pam na ddylai dy  brofiad di yn y brifysgol fod yn union fel profiad pawb arall. Rydyn ni’n croesawu dy gais i astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

5 allan o 5 seren
...Dwi wir yn credu taw'r gefnogaeth gan y Brifysgol sydd wedi fy ngalluogi i ddod mor bell â hyn...

Derbyn cynnig lle trwy Glirio neu addasu

Os wyt ti wedi datgan anabledd trwy UCAS ac rwyt ti wedi derbyn cynnig lle i astudio yn Abertawe, gofynnir i ti lenwi Ffurflen Cymorth Myfyrwyr. Fodd bynnag, os nad wyt ti wedi derbyn yr Ffurflen Cymorth Myfyrwyr neu os nad oeddet ti wedi datgelu dy anabledd trwy UCAS, dyma’r ddolen i’r Ffurflen i ti ei lenwi: https://myuni.swansea.ac.uk/cy/gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr/ffurflen-cymorth-myfyrwyr/ 

Ar ôl i ni adolygu dy Ffurflen, bydd y Gwasanaeth Lles ac Anabledd yn cysylltu â thi i roi cyngor ar y camau nesaf.

Mewn nifer fach o achosion, efallai na fydd modd i ni gyflawni’r trefniadau angenrheidiol erbyn i ti ddechrau dy gwrs. Pe bai hyn yn cael effaith negyddol ar dy brofiad yn y brifysgol neu ar dy ddiogelwch, gall y Gwasanaeth Lles ac Anabledd dy gynorthwyo i ystyried opsiynau eraill.

Darllena ein Canllaw i Gymorth a Chefnogaeth Ychwanegol i dderbyn rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n cefnogi myfyrwyr ag anableddau a’r broses ar gyfer rhoi gwybod i ni am dy anghenion.

Cysylltu â ni

Cysyllta â ni yn y Gwasanaeth Lles ac Anabledd os oes angen rhagor o wybodaeth arnat ti.