Peidiwch ag aros tan ddiwrnod y canlyniadau - Dechreuwch eich cais Clirio nawr.

Mae cyflwyno cais Clirio i Brifysgol Abertawe yn rhwydd, dilynwch y pedwar cam syml yma:

Cam Un – Creu cyfrif

Cam Dau – Llenwi’ch manylion personol a chlicio ‘Cyflwyno Cais’

Cam Tri – Gwnewch gais am lety yn un o breswylfeydd y Brifysgol

Cam Pedwar – Cyflwynwch eich cais Clirio cyflawn pan fydd eich canlyniadau gyda chi.

Drwy gofrestru eich gwybodaeth, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am bopeth sy'n ymwneud â Chlirio gan gynnwys y manylion diweddaraf ar leoedd gwag yn ogystal â chanllawiau a chyngor Clirio i chi sicrhau eich lle prifysgol.

Ar ôl i chi gwblhau eich cais, byddwch yn cael rhif myfyriwr a byddwch yn gallu gwneud cais am lety. Ewch i'n tudalennau llety i gael rhagor o wybodaeth.

Dal yn ansicr? Beth am fynychu un o’n Diwrnodau Agored i gael gweld y lle! Cewch gyfle i siarad gyda myfyrwyr cyfredol a staff academaidd, mynd ar daith o amgylch ein dau gampws hyfryd, a dysgwch beth sydd gan ddinas Abertawe ei gynnig i chi.

Gwnewch gais Clirio nawr
5 allan o 5 seren
Mae fy amser hyd yma ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn eithriadol. Gwnes gais i Abertawe drwy'r broses glirio a heb wybod beth i'w ddisgwyl. Eto i gyd, mae fy nghwrs, y Brifysgol a fy llety yn rhyfeddol.

Mae'r lleoedd Clirio wedi cael eu rhyddhau

Defnyddiwch ein chwilotydd cyrsiau am ragor o wybodaeth

Myfyriwr yn eistedd wrth ddesg ar liniadur