Cynhelir ein Diwrnodau Agored Clirio ddiwedd mis Awst ac maent yn gyfyngedig i ddeiliaid cynigion - cyn gynted ag y byddwch wedi derbyn cynnig i astudio gyda ni, cewch wahoddiad i archebu dyddiad sy'n addas i chi. Yn y cyfamser, beth am ymuno â ni mewn Diwrnod Agored Israddedig?
Rydych chi'n haeddu cael blas ar fywyd Prifysgol a gwybod eich bod chi'n gwneud y penderfyniad cywir i chi a'ch dyfodol. Mae Diwrnod Agored yn rhoi cyfle i archwilio'ch dyfodol disglair ar y campws gyda ni a chael cipolwg go iawn ar sut beth fydd fyw ac astudio yn Abertawe.