Darganfyddwch Gyrsiau sydd ar gael yn Abertawe drwy Glirio
Mae Clirio ar agor o Ddydd Iau 2il Gorffennaf ac ar y dyddiad hwn byddwch yn gallu dysgu mwy am y cyrsiau fydd gennym gyda lleoedd ar gael ar gyfer mynediad yn 2026. Byddwch hefyd yn gallu chwilio am gyfleoedd penodol, fel cyrsiau gyda Blwyddyn Sylfaen, Blwyddyn Dramor, Blwyddyn mewn Diwydiant, Meistri Integredig neu gyrsiau sydd ar gael i ymgeiswyr rhyngwladol.
Yn y cyfamser, gallwch barhau i wneud cais drwy UCAS Extra os oes gennych eich canlyniadau neu le ar eich ffurflen UCAS. Fel arall, cofrestrwch eich manylion a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi gyda dyddiadau allweddol ac awgrymiadau defnyddiol drwy gydol y cyfnod Clirio fel y gallwch fwynhau'ch haf heb boeni.