Pan fyddwch chi wedi derbyn eich canlyniadau neu gynnig diamod, byddwn yn anfon cynnig llety atoch drwy e-bost a thrwy eich cyfrif llety.

Os ydych chi am dderbyn y llety, mae gennych chi 3 niwrnod i gytuno ar denantiaeth a thalu blaendal i gadw a sicrhau eich ystafell.

Gofynnwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar gyda ni wrth i ni weithio trwy’r ceisiadau cyn gynted â phosibl.

Rydym yn dyrannu lleoedd yn y drefn isod:

  • Myfyrwyr â gofynion ychwanegol
  • Cyrsiau sydd â dyddiad dechrau cynnar
  • Yna yn ôl trefn dyddiad, wedi i chi gael eich derbyn ar eich cwrs astudio

Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn derbyn cynigion cyn eraill, ond nid yw hyn yn golygu nad oes lle ar gael i chi, mae angen i ni lenwi'r fflat/llety cyn anfon cynigion at fyfyrwyr.

Pryd fydda’ i’n cael gwybod ble fydda’ i’n byw?

  • Cynigion diamod: Diwedd mis Gorffennaf
  • Cynigion amodol: Ar ôl i chi gael canlyniadau eich arholiadau – ar gyfer y rhan fwyaf o fyfyrwyr, mae hyn yn golygu diwedd mis Awst ar ôl eich canlyniadau Safon Uwch. Byddwn yn cadarnhau eich lle mewn llety pan fydd eich lle ym Mhrifysgol Abertawe yn cael ei gadarnhau ar ôl derbyn eich canlyniadau, pan fydd eich cynnig yn dod yn ddiamod.
  • Myfyrwyr yswiriant neu glirio: Medi.

Myfyrwyr Rhyngwladol: Peidiwch â derbyn cynnig os nad ydych chi wedi derbyn dogfennau cyfreithiol perthnasol, megis llythyr Fisa/CAS i astudio. Cysylltwch â ni'n uniongyrchol.

Byddwch yn treulio eich blwyddyn gyntaf yn Y Coleg, a chewch gynnig o lety yng Nghyfadeilad Rod Jones ar Gampws y Bae.

Sut y dyrennir ystafelloedd?

Rydym yn prosesu ceisiadau gan ddilyn y canlynol:

  • Categori y Myfyriwr - Diamod yna Amodol yna Yswiriant ac yna Clirio
  • Yn y categori uchod - rydym yn dyrannu myfyrwyr gyda gofynion ychwanegol yn gyntaf
  • Dyddiad y cais - Rydym yn dyrannu llety i fyfyrwyr Diamod ac Amodol sy'n gwneud cais erbyn 30 Mehefin yn gyntaf gan fod ganddynt gynnig wedi'i warantu o lety
  • Dyddiad derbyn cynnig y cwrs