Mae ein Hundeb Myfyrwyr yn cefnogi dros 150 o gymdeithasau

Mae cymuned myfyrwyr gref ar gampysau Prifysgol Abertawe. O'r celfyddydau gweledol i pocer, cwrw go iawn i ganu corawl, mae'n debygol iawn bod gan Undeb y Myfyrwyr y gydeithas berffaith i chi - ac os nad oes un yn bodoli, mae'n rhwydd creu eich un eich hun! 

Mae ymuno â chlwb neu gymdeithas yn ffordd wych o gwrdd â phobl o'r un meddylfryd a gwneud ffrindiau newydd. Gall hefyd roi sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr i chi i'ch helpu i gael hyd i swydd - yn enwedig os byddwch yn arwain wrth gynnal y clybiau. 

Gallwch ddysgu mwy a chofrestru i glwb chwaraeon neu gymdeithas ar unrhyw adeg trwy ymweld â gwefan Undeb y Myfyrwyr. Bydd llawer o gyfleoedd i ddarganfod mwy am yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig yn ystod y cyfnod croeso hefyd.

I weld rhestr law o gymdeithasau, a chael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Undeb y Myfyrwyr.

 

Cyflwyniad i rai o'n clybiau a chymdeithasau yn Ffair y Glasfyfyrwyr 2018

Chwiliwch am eich Clwb Chwaraeon

Nofiwr yn neidio mewn i bwll
Llun proffil o Gwern, Swyddog Cymdeithasau a Gwasanaethau Undeb y Myfyrwyr

Shwmae, Gwern ydw i, ac rwy’n falch iawn o gael cynrychioli myfyrwyr fel y Swyddog Cymdeithasau a Gwasanaethau am y flwyddyn academaidd sydd i ddod! 

Graddiais gyda gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid gyda blwyddyn mewn diwydiant yn 2021 cyn mynd ar drywydd fy mrwdfrydedd dros y Gymraeg gan ennill rôl y Swyddog Materion Cymraeg llynedd. Mae cymuned wedi bod ar y blaen i mi erioed, a chefais hynny yn y Gymdeithas Gymraeg lle roeddwn i'n Llywydd ac yn Is-lywydd yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol.

Rwy’n awyddus i sicrhau bod pawb yn dod o hyd i’w cymuned yn Abertawe, gan ei fod yn llywio profiadau'r brifysgol! Os na allet ti ddod o hyd i mi ar y campws, byddaf yn chwifio sgarff Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth neu’n mwynhau gig Cymraeg! Rwy’n gweld Abertawe fel cartref nawr lle fy hoff le fyddai unrhyw un o’n tafarndai annwyl sy’n dangos y rygbi neu’r pêl-droed!

 

Helô, Jonny ydw i, Swyddog Chwaraeon Undeb y Myfyrwyr!

Helo bawb, Jonny Davies ydw i: bachgen o Lundain ond dyn o Abertawe. Fel myfyriwr, astudiais wleidyddiaeth, ond chwaraeon oedd fy mhrif ffocws erioed. Roeddwn i’n Is-gapten ac yn Gapten Rygbi’r Gynghrair, roeddwn i’n chwarae pêl-droed Americanaidd, ac roeddwn i'n paffio a arweiniodd at sefydlu digwyddiad Bocsio Coler Wen Abertawe – bocsio Coler Werdd.

Mae chwaraeon wedi rhoi cymaint i mi yn y Brifysgol, mae wedi fy ngwneud i'r person ydw i heddiw. Gobeithio y gallaf ddefnyddio’r cyfle hwn fel Swyddog Chwaraeon i roi rhywbeth yn ôl i gymuned chwaraeon Abertawe. Y Fyddin Werdd a Gwyn am byth!

Llun proffil o Jonny, Swyddog Chwaraeon Undeb y Myfyrwyr

Cyfryngau'r Brifysgol

Gall myfyrwyr wirfoddoli i gymryd rhan gydag unrhyw rai o'r cyfryngau hyn, a rhoddir hyfforddiant a help iddynt ddatblygu eu sgiliau newyddiadurol. Mae profiad gwaith ymarferol ar gael hefyd, o safbwynt y cyhoeddiadau i fyfyrwyr a sefydliadau allanol hefyd. Erbyn hyn mae llawer o gyn-gyfranogwyr Waterfront yn gwneud gwaith proffesiynol yn y cyfryngau - ond mae croeso hefyd i'r fyfyrwyr sydd am ysgrifennu er pleser yn unig!  

Mae gan Brifysgol Abertawe bapur newydd a gynhelir gan fyfyrwyr, WaterfrontFront, a gwefan Waterfront Online, sy'n cael eu cynnal gan dîm mawr o fyfyrwyr sy'n ysgrifenwyr, ffotograffwyr, cynllunwyr a datblygwyr y we.

Mae gorsaf radio i fyfyrwyr ar y campws hefyd. Mae gan Xtreme Radio stiwdios byw a recordio, lle gall myfyrwyr gyflwyno a chynhyrchu eu sioeau eu hunain. Mae croeso i unrhyw un gymryd rhan, ac mae cyn-aelodau Cymdeithas Radio Xtreme wedi symud ymlaen i swyddi ym maes radio. Mae Xtreme yn cydweithio'n agos â Radio'r BBC i ddarparu hyfforddiant i'w haelodau.

Gorsaf deledu swyddogol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, SUTV. Recordiwch, golygwch a chyhoeddwch gynnwys fideo ar-lein gyda’r nod o hyrwyddo a hysbysebu profiad myfyrwyr yn y brifysgol trwy ddigwyddiadau, cymdeithasau a chwaraeon.