Student Swansea Events

Mae ein Hundeb y Myfyrwyr yn trefnu digwyddiadau i fyfyrwyr drwy gydol y flwyddyn. 

Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yw Dawns yr Haf, sy’n cael ei chynnal ar Ddôl Abaty’r Brifysgol ac sy’n denu perfformwyr mawr yn rheolaidd – roedd y prif berfformwyr eleni yn cynnwys Netsky, The Feeling ac Eva Lazarus.

Uchafbwynt arall yw Her Prifysgolion Cymru (Varsity) - yr ail fwyaf o gemau her Prydain (y tu ôl i Rydychen/Caergrawnt). Mae miloedd o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe - ein ‘Byddin Werdd a Gwyn’ - yn teithio i gystadlu a chefnogi ein timau yng Nghaerdydd, gan wneud Varsity y digwyddiad cymdeithasol mwyaf y flwyddyn.

Yn ogystal â threfnu digwyddiadau, mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal y tafarnau ar y ddau gampws; JCs, Rebound a Tafarn Tawe, ac mae ystod eang o leoliadau ar gael yng nghanol Abertawe ar brif stryd dafarnau’r ddinas, Stryd y Gwynt. 

…A heb anghofio Canolfan Gelf Taliesin, ein sinema, gofod perfformio ac oriel ar ein campws, sy’n cynnal rhaglen brysur o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.

Myfyrwyr yn dawnsio yn Ddawns yr Haf
Netsky yn perfformio yn Dawns yr Haf
Myfyrwyr ar reid yn Dawns yr Haf