EICH PLATFFORM DYSGU DIGIDOL

myfyrwyr yn eistedd mewn seminar

Croeso i Canvas!

Croeso i dudalennau gwe Canvas Prifysgol Abertawe, lle gallwch ddysgu mwy am ein platfform dysgu digidol - Canvas.

Mae Prifysgol Abertawe'n adnabyddus am ei rhagoriaeth o ran dysgu, addysgu ac asesu. Mae'r rhagoriaeth hon wedi'i hwyluso a'i gwella gan blatfform Canvas, sy'n darparu man ar-lein lle gall myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu, a gall cymunedau cyrsiau ffynnu.

Os ydych chi'n aelod o staff neu'n fyfyriwr, mae'r tudalennau gwe hyn wedi'u dylunio i'ch cynorthwyo wrth ddefnyddio Canvas drwy ddarparu gwybodaeth allweddol a'ch cyfeirio at gymorth sydd ar gael.