Mae gan Brifysgol Abertawe ystod o gyfleoedd i chi gymryd rhan mewn clybiau, cymdeithasau a Diwylliant Cymreig tra eich bod yn astudio gyda ni. Efallai nad ydych chi'n hyderus yn siarad Cymraeg ac eisiau cyfle i ymarfer, neu eich bod yn siaradwr rhugl ac eisiau cwrdd ag eraill sy'n siarad eich iaith.

Mae croeso i siaradwyr rhugl a dysgwyr.

Y Gymdeithas Gymraeg (Y Gym Gym)

Mae bod yn aelod o’r Gym Gym yn gyfle gwych i fyfyrwyr Cymraeg Abertawe i gymdeithasu a chwrdd â siaradwyr Cymraeg eraill o fewn y Brifysgol. Bob blwyddyn, mae’r Gymdeithas yn cynnal nifer fawr o ddigwyddiadau sydd yn amrywio o grôlau a nosweithiau cymdeithasol, nosweithiau cwis ac ambell drip. Y prif noson mae pawb yn disgwyl ymlaen ato yw'r crôl teulu ar ddechrau'r flwyddyn; mae'n gyfle gwych i ddod i adnabod aelodau newydd a phresennol Y Gym Gym. Yn flynyddol, trefnir trip yn ystod y Chwe Gwlad i Ddulyn neu i Gaeredin. Mae’r tripiau yn siawns dda i gymdeithasu a gwneud ffrindiau gydag aelodau Gym Gym’s eraill ar draws Cymru. Bob blwyddyn, mae'r Gym Gym yn mynychu Dawns Rhyngolegol a’r Eisteddfod Ryngol gan gystadlu yn erbyn Cymdeithasau Cymraeg eraill.

Dysgwch ragor am gymdeithasau Undeb Y Myfyrwyr yma neu ddarllenwch ragor am Y Gymdeithas Gymraeg yma.

Logo y Gymdeithas Gymraeg, sef alarch o fewn tarian gyda enw'r Gym Gym uwch ei ben a Prifysgol Abertawe oddi tano,

Aelwyd yr Elyrch

Ysbrydolwyd ein myfyrwyr i greu aelwyd newydd yr Urdd eu hunain ac fe lansiwyd Aelwyd yr Elyrch ar ddiwrnod pen-blwydd yr Urdd yn 100 yn 2022. Mae Aelwyd yr Elyrch yn gyfle gwych sy’n addas i bobl 18-25 oed. Mae'r Aelwyd yn cynnig cyfleoedd i chi gystadlu yn yr Eisteddfod, gwirfoddoli yn y gymuned leol a bod yn rhan o weithgareddau ymarferol a llawer mwy. Mae'r Aelwyd yn cwrdd bob pythefnos mewn lleoliadau amrywiol ar gampysau'r Brifysgol.

Ystyr y gair Aelwyd yw cartref felly beth am ymuno a’n cartref newydd ni o fewn cymuned fawr yr Urdd?  Mae'r Aelwyd yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gymdeithas Gymraeg, Swyddog Materion Cymraeg, Undeb Myfyrwyr a Changen Abertawe.  

Logo Aelwyd yr Elyrch

Shwmae, Macsen ydw i a fi yw Swyddog Materion Cymraeg Undeb y Myfyrwyr!

"Mae’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn bethau dw i’n teimlo’n hynod angerddol yn eu cylch ers i mi fod yn ifanc. Rwyf wedi derbyn fy addysg trwy gyfrwng y Gymraeg trwy gydol fy mywyd gan gynnwys fy amser yma ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio BSc Daearyddiaeth.

Gan fy mod yn frodor o Gwm Tawe uchaf, mae’r Gymraeg wedi rhoi cyfoeth o gyfleoedd i mi ac wedi chwarae rhan enfawr yn fy magwraeth, ac rwy’n hynod falch o gael y cyfle i’w siarad.

Fy nod ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod yw gwneud yn siŵr bod y Brifysgol yn canolbwyntio ar yr iaith Gymraeg, ei diwylliant a’i hetifeddiaeth. Yn ogystal, mae gen i obeithion o gryfhau'r cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu a chael y profiad addysgu cyfrwng Cymraeg gorau posib yn ogystal â chynnig cyfleoedd i’n clybiau a’n cymdeithasau cyfrwng Cymraeg esblygu, er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr sy’n siaradwyr ac yn ddysgwyr Cymraeg gael gwell dealltwriaeth o’n diwylliant gwych."

E-bost: macsen.davies@swansea-union.co.uk

Image of Macsen Davies