Dylanwadu ar bolisïau cyflogaeth a chyflogau’r sector cyhoeddus

Rydym yn gwella dealltwriaeth o dâl y sector cyhoeddus

Image of the Welsh countryside

Yr Her

Sut i leihau'r lefelau uchel hirdymor o anweithgarwch a diweithdra yng Nghymru. A ddylai cyflogau'r sector cyhoeddus yn y DU fod yn fwy cymesur â chyflogau'r sector preifat mewn marchnadoedd llafur lleol? 

Y Dull

Mae'r sylfaen ymchwil gref o ran llafur ac economeg ranbarthol yn Abertawe – gyda chyhoeddiadau mewn cyfnodolyn rhyngwladol blaenllaw sy'n defnyddio setiau data micro a thechnegau o faes econometreg â phwyslais cryf ar bolisïau – wedi cael ei chydnabod yn rhyngwladol. Ers 2002, mae hyn wedi arwain at ddatblygu tair canolfan ymchwil: WELMERC yn 2002; SERC yn 2008; a WISERD yn 2009 a 2014 (canolfannau ymchwil y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yw SERC a WISERD).  mae'r canolfannau ymchwil hyn wedi sicrhau cyllid gwerth mwy na £2.4m i Abertawe a chyhoeddi dros 50 o adroddiadau sydd wedi effeithio'n uniongyrchol ar bolisïau. 

Yr Effaith

Ers i argymhellion ynghylch polisïau'r farchnad lafur gael eu cyflwyno i lywodraeth Cymru, cafwyd gwelliannau trawiadol yn y maes. Er enghraifft, roedd cyfradd anweithgarwch yng Nghymru yn 2019 yn is na'r cyfartaledd yn DU; yn 2001 roedd bron pump y cant yn uwch.

Yn 2011, gofynnodd Canghellor y Trysorlys i gyrff adolygu cyflogau archwilio a ddylai cyflogau oddeutu chwe miliwn o weithwyr yn y sector cyhoeddus fod yn fwy cymesur â'r farchnad lafur leol, yn dilyn ymchwil gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a awgrymodd fod gwahaniaethau rhanbarthol mawr rhwng cyfraddau cyflogau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Gwnaeth gwaith gan yr Athro David Blackaby, yr Athro Murphy a'r athro O’Leary herio dull a chanfyddiadau'r ymchwil hon, gan nodi gwahaniaethau rhanbarthol llai neu ddibwys rhwng cyfraddau cyflogau. dywedodd prif economegydd swyddfa economeg y gweithlu fod ymchwil prifysgol abertawe wedi chwarae rôl werthfawr wrth helpu cyrff adolygu cyflogau i asesu'r dystiolaeth ynghylch y mater hwn. Yn 2012, rhoddodd y canghellor y gorau i'r polisi hwn, a fyddai wedi lleihau cyflogau miliynau o weithwyr yn y sector cyhoeddus mewn ardaloedd llai ffyniannus.

Mae'r ymchwil hon hefyd wedi dylanwadu ar y ffordd y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi amcangyfrif y blwch rhwng cyflogau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat ers 2013.

Mae'r ymchwil hefyd wedi llywio polisïau Llywodraeth Cymru ym maes addysg, lle rhoddwyd £1m yn ychwanegol ar gyfer hyfforddiant yn ei rhaglen flaenllaw ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a derbyniwyd 29 o argymhellion eraill yn dilyn adroddiadau ymchwil gan WISERD.

Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe