bay campus image

Yr Athro Nigel O'Leary

Athro

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602113

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Nigel yn Athro Economeg, yn ddirprwy gyfarwyddwr WELMERC (Canolfan Ymchwil a Gwerthuso Marchnad Waith Economi Cymru) ac yn gyd-gyfarwyddwr yn WISERD (Sefydliad Data a Dulliau Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru). Ym maes economeg llafur cymhwysol mae ei ddiddordebau ymchwil ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn ystyriaethau rhanbarthol a lles. Mae ganddo brofiad helaeth o ymchwil ac ymgynghori ym meysydd economeg llafur a marchnadoedd llafur rhanbarthol, datblygu economaidd ac anghydraddoldebau, a chyrhaeddiad addysgol. Mae ei gleientiaid wedi cynnwys BP, Llywodraeth Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, y Comisiwn Cyfle Cyfartal a CEDEFOP (y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Hyfforddiant Galwedigaethol), ymhlith eraill.

Meysydd Arbenigedd

  • Economeg Llafur
  • Economeg Lles
  • Economeg Ranbarthol
  • Economeg Addysg