Tuag at ryngddiwylliannedd

Yr Her

Mae ymgyrchoedd mudiadau brodorol wedi cynyddu a chyflymu ledled y byd yn ystod y tri degawd diwethaf ac un o’u prif fuddugoliaethau fu sicrhau cydnabyddiaeth ffurfiol o hawliau pobloedd brodorol. Cydnabyddir Confensiwn 169 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO 169, 1989) a Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobloedd Brodorol (UNDRIP, 2007) yn gerrig milltir o bwys. Mae cydymffurfio â’r rhain hefyd yn bwysig o safbwynt 17 Nod Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.

Chwaraeodd rhanbarth Patagonia rôl benodol yn y broses o greu cenedl yn yr Ariannin. Er bod y Cymry yn Chubut yn rhan o’r poblogaethau hynny a fyddai’n elwa ar y broses yn y pen draw, cafodd pobloedd brodorol eu dadleoli, eu datgymalu a’u dadfeddiannu ar raddfa eang.

Wrth iddyn nhw herio arferion nad ydynt yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth ryngwladol ar hawliau brodorol, mae cymunedau brodorol yn annog yr Ariannin i gydymffurfio nid yn unig â’r ddeddfwriaeth gyfreithiol a’r nodau ar gyfer datblygu cynaliadwy y mae wedi’u mabwysiadu ond hefyd â’r hawliau brodorol sy’n cael eu cynnwys yn ei Chyfansoddiad Cenedlaethol ei hun.

Logo

Y Dull

Mae’r ymchwil yn cyfrannu at y gwaith o adfer treftadaeth ym Mhatagonia mewn ffyrdd gwahanol. Mae prosiect a ariennir gan yr Academi Brydeinig/Leverhulme yn ymchwilio i ddefnyddioldeb Theori Gwladychiaeth Ymsefydlwyr i fyfyrio ynghylch prosesau gwladychu yn Ne Patagonia a’u goblygiadau ar gyfer pobl frodorol heddiw. Gan ddefnyddio dull cydweithredol gydag aelodau pobloedd y Mapuche, y Tehuelche a’r Mapuche-Tehuelche yn Nhalaith Santa Cruz, yn ogystal â’r Selk’nam yn Tierra del Fuego, anogwyd cyd-fyfyrio ar sail y profiadau a’r hanes y mae cyfranogwyr y gweithdy fel unigolion, teuluoedd a chymunedau yn eu rhannu. Nod pellach y ‘ddeialog gwybodaethau’ hon yw cyfrannu at drafodaethau damcaniaethol drwy gyd-ddamcaniaethu ar sail profiadau bywydau pobloedd brodorol Patagonia.

Mae prosiect arall a ariennir gan yr EPSRC/CHERISH-DE yn cyfuno arloesi digidol a dirnadaeth yn sgîl ymchwil ethnograffig a hanesyddol wrth ddatblygu ‘Orígenes’ [Gwreiddiau], sef llwyfan symudol a luniwyd ar y cyd gan aelodau’r cymunedau Tehuelche Camusu Aike a Kopolke yn Ne Patagonia.

Yr Effaith

Drwy alluogi pobloedd brodorol i hawlio ac ailfeddiannu delweddau’u hynafiaid (yn ddigidol felly), mae’r prosiect yn cefnogi’r camau y mae pobloedd brodorol yn eu cymryd i adfer eu treftadaeth, atgyfnerthu’u dolenni cymdeithasol ac atgyweirio eu cof cymunedol. 

Mae ein gwaith yn cynnwys:
• Mae’r llwyfan ffynhonnell agored ‘Orígenes’ a ddyluniwyd ar y cyd ar gael am ddim i ddefnyddwyr ffonau a llechi Android ledled y byd.
• Cynhyrchu adnoddau addysgol ar y cyd (yn Sbaeneg) i’w defnyddio mewn ysgolion yn Nhalaith Santa Cruz yn ogystal ag yn y cymunedau brodorol (mewn partneriaeth â’r Rhaglen Addysg Ddwyieithog Ryngddiwylliannol (MEIB), Cyngor Addysg Talaith Santa Cruz, yr Ariannin).
• Partneriaethau allweddol: trefnwyd a datblygwyd y gweithdai trwy gydweithrediad gydag Universidad de la Patagonia Austral Río Gallegos ac Universidad Nacional de Tierra del Fuego (Yr Ariannin); darparwyd mynediad at storfeydd rhanbarthol gan sefydliadau megis Sefydliad Ibero-Americanaidd Berlin (yr Almaen), Amgueddfa La Plata (yr Ariannin), Instituto de la Patagonia Universidad de Magallanes (Chile), Museo Regional de Magallanes (Chile), Museo Salesiano Maggiorino Borgatello (Chile), Museo Martín Gusinde (Chile).

Themâu Ymchwil Prifysgol Abertawe