Rydyn ni wrthi’n llunio chwyldro Deallusrwydd Artiffisial (AI)

Rydyn ni wrthi’n llunio chwyldro Deallusrwydd Artiffisial (AI)

Mae cynnydd deallusrwydd artiffisial (AI) yn cynnig effeithiau cadarnhaol yn ogystal â risgiau i ddiwydiannau, unigolion a chymdeithasau ledled y byd.
Gallai deallusrwydd artiffisial effeithio'n sylweddol ar ddiwydiannau, gan gynnwys:amaethyddiaeth, cyllid, gofal iechyd, gweithgynhyrchu, manwerthu, y gadwyn gyflenwi a chyfleustodau.Wrth i fwy o bobl ddefnyddio technoleg sy'n cynnwys deallusrwydd artiffisial, ceir effeithiau ar unigolion a chymdeithasau.
Er gwaethaf manteision defnyddio deallusrwydd artiffisial megis gwella cynhyrchiant ar draws ystod o ddiwydiannau:diagnosis cyflym ym maes gofal iechyd, cynnydd yn allbynnau athrawon a myfyrwyr, a'r gallu i ddarparu gwasanaethau gwell ar gyfer dinasyddion, mae risgiau sylweddol i'r gymdeithas ynghylch rhoi deallusrwydd artiffisial ar waith.
Gallai unigolion yn y gymdeithas ofni colli swydd, diffyg cymhwysedd a'r angen i feithrin sgiliau newydd, gwrthwynebu newid, yn ogystal â diffyg dealltwriaeth o natur esboniadwy, ymwybyddiaeth gyd-destunol, a safoni.
Mae angen rheoleiddio a rheoli polisïau er mwyn sicrhau bod y chwyldro deallusrwydd artiffisial yn gweithio tuag at ffyniant teg ac yn lleihau'r risg o segmentu'n unol â rhywedd.
Er mwyn elwa a derbyn deallusrwydd artiffisial yn llwyr yn ein bywydau, a diogelu cenedlaethau'r dyfodol, mae penderfyniadau yn ystod y blynyddoedd nesaf yn hanfodol.

Yr Dull

Yn 2019, cynhaliodd yr athro Yogesh Dwivedi astudiaeth mewn gweithdy o'r enw "Deallusrwydd Artiffisial (AI):Heriau a Chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg ac Agenda ar gyfer Ymchwil ac Ymarfer”.

Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys y rhai o fyd diwydiant, y byd academaidd a'r sector cyhoeddus a drafododd y cyfleoedd posib, yr heriau a'r agenda ymchwil bosib oherwydd twf deallusrwydd artiffisial mewn sawl sector.

Cynrychiolwyr gweithdai

cynrychiolwyr gweithdai

Yr Effaith

  • Canlyniad y gweithdy oedd cyhoeddiad mewn cyfnodolyn Artficial Intelligence (AI): Multidisciplinary perspectives on emerging challenges, opportunities, and agenda for research, practice and policy.
  • Mae Athro Dwivedi wedi cyd-ysgrifennu dwy o erthyglau am ddeallusrwydd artiffisial yn y cylchgrawn Yojana, a gyhoeddwyd gan Weinidogaeth Gwybodaeth a Darlledu Llywodraeth India. Mae erthygl Dwivedi et al. (2019) (sydd wedi'i harwain gan YOGESH) wedi cyflwyno Fframwaith Chwe Dimensiwn TAM-DEF ynghyd â Cherdyn Sgorio DEEP-MAX sy'n ceisio sicrhau deallusrwydd artiffisial diogel a moesegol cyn ei ddosbarthu i'r cyhoedd. Mae'r rhain yn ystyried:
    • Tryloywder ac archwilio
    • Atebolrwydd a materion cyfreithlon
    • Amddiffyn rhag camddefnydd
    • Y bwlch digidol a'r diffyg data
    • Moeseg
    • Tegwch a chydraddoldeb

Ymchwilydd cysylltiedig

Dr Denis Dennehy

Yr Athro Denis Dennehy
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG 9 Industry innovation and infrastructure
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe