Mae angen eich cefnogaeth chi arnom ni.

Gallai eich rhodd chi heddiw helpu myfyrwyr sy'n wynebu caledi ariannol.

Gallai ariannu'r darganfyddiad nesaf mewn ymchwil feddygol.

Neu gallech chi gefnogi ysgolheigion o bedwar ban byd i gyrchu addysg yn Abertawe.

Cysylltwch â'ch achos chi isod, neu e-bostiwch giving@abertawe.ac.uk i gael sgwrs gydag un o'n tîm.

Yn 2022, cefnogodd roddion gan gyn-fyfyrwyr a chyfeillion prosiect mewn angen.

O gyrsiau Iaith Arwyddion Prydain i les myfyrwyr, a mynediad TG i ddisgyblion yn Wganda, gwnaeth ein rhoddwyr wahaniaeth go iawn i'n cymunedau lleol a byd-eang.

Nawr, yn fwy nag erioed, mae myfyrwyr yn wynebu caledi ariannol eithriadol.

Gall eich cefnogaeth chi wneud byd o wahaniaeth i fyfyrwyr sy'n gadael gofal neu sydd wedi'u dieithrio o'u teuluoedd ac eraill mae heriau annisgwyl yn effeithio arnynt yn arw.

Mae ein hacademyddion o'r radd flaenaf yn datblygu ymchwil a fydd yn llywio meddygaeth yfory.

Rydym ni'n falch o fod yn sefydliad sy'n canfod triniaethau ar gyfer Covid-19, ffyrdd newydd o dargedu tiwmorau canser a llawer mwy.

Mae'r ysgoloriaeth hon yn cefnogi myfyriwr ôl-raddedig Cymraeg sy'n dilyn yn olion traed Hywel Teifi Edwards, a dreuliodd 30 mlynedd fel darlithydd a llysgennad dysgu a diwylliant Cymreig.