Rhannwch Eich Atgofion

Mae ymgyrchoedd ffonio'n rhan annatod o'n rhaglen codi arian Rhoi Rheolaidd yn Abertawe. Dros gyfnod o dair neu bedair wythnos, mae myfyrwyr presennol yn cysylltu â miloedd o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe dros y ffôn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ddatblygiadau cyffrous yn y Brifysgol ers iddynt raddio. Caiff cyn-fyfyrwyr hefyd gyfle i roi rhodd i'r gronfa Cefnogi Abertawe ac i gael gwybod rhagor am y llu o fuddion a chyfleoedd sydd ar gael i gyn-fyfyrwyr.

Mae ein hymgyrchoedd ffôn yn galluogi ein cyn-fyfyrwyr gwerthfawr i rannu eu hatgofion a'u profiadau diddorol â’n myfyrwyr presennol. Yn ogystal, mae ein tîm o fyfyrwyr ar y ffôn yn cael budd enfawr o gael cipolwg ar y gyrfaoedd y mae cyn-fyfyrwyr wedi'u dilyn oherwydd bod llawer o'n cyn-fyfyrwyr yn dewis cynnig cyngor amhrisiadwy ar yrfaoedd.

Mae stori pawb yn wahanol; ond mae pob un o'n cyn-fyfyrwyr yn rhannu cysylltiad gydol oes ag Abertawe.

Ymgyrchoedd Presennol

Rydym yn hynod falch o'r gymuned fyd-eang yn Abertawe, ac yn ffodus ein bod yn gallu rhoi cyfle i'n myfyrwyr presennol siarad â chyn-fyfyrwyr ledled y byd.

Cefnogwch ein myfyrwyr gwych drwy roi rhodd i'n hymgyrch bresennol.

Os hoffech gymryd rhan mewn ymgyrch yn y dyfodol neu wybod mwy, cysylltwch â giving@abertawe.ac.uk