I gadw ystafell ar ein cyfradd ostyngedig i gyn-fyfyrwyr, ffoniwch yr adran cadw lle ganolog ar 01792 642020 gan ddyfynnu Alumni, ac yna'r côd clwstwr 799.

Gallwch hefyd archebu eich cyfradd gorfforaethol ar gyfer ALUMNI ar-lein.

Sylwer bod y cynnig hwn yn dibynnu ar argaeledd.

Dyn yn defnyddio offer campfa
Aelodaeth Chwaraeon Abertawe

Mae cyn-fyfyrwyr yn gymwys am Aelodaeth Consesiwn. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Pentref Chwaraeon ar memberships.sbsp@swansea.ac.uk.

Parc Chwaraeon Bae Abertawe, drws nesaf i gampws Parc Singleton, yn cynnwys pwll nofio 50m, trac athletau, caeau chwarae, campfa a llawer mwy, tra bod gan Gampws y Bae neuadd chwaraeon uchder llawn a champfa hefyd. Cynhelir gwersi ffitrwydd rheolaidd ar y ddau gampws, gyda staff ymroddgar i'ch helpu â'ch anghenion hyfforddi.  

 

Cyswllt Prifysgol Abertawe yw'r gymuned ar-lein unigryw ar gyfer graddedigion, myfyrwyr a staff Abertawe. 

  • Cysylltu - Lle gallwch ddod o hyd i'ch cyd-raddedigion, cael gwybod beth maen nhw wedi bod yn ei wneud a chadw mewn cysylltiad.
  • Rhoi rhywbeth yn ôl  - Cyfleoedd i gyflwyno, cyflogi a chynnig mentora ein myfyrwyr sy'n graddio.
  • Ehangu - Manteisiwch ar eich rhwydwaith proffesiynol i gael eich cyflwyno i bobl y dylech eu hadnabod.

Cyswllt Prifysgol Abertawe

Ar ôl graddio
Ar ôl graddio

Gelli di gael cyngor a chymorth ymarferol ar yrfaoedd am ddim gan ein harbenigwyr cyflogadwyedd.

Gelli di hefyd gyrchu’r Cwrs Datblygu Gyrfa i Raddedigion! Bydd yr hyfforddiant hwn sydd yn llwyr ar-lein roi’r sgiliau y mae eu hangen arnat ti ar gyfer dy gam nesaf ar dy daith.

Dysga fwy

Students wearing Swansea Uni hoodies
Fulton Outfitters disgownt

Mae Fulton Outfitters yn cyflenwi amrywiaeth wych o ddillad Prifysgol Abertawe, sy'n cynnwys siwmperi a hwdis a chrysau T a hetiau.

Mae cyn-fyfyrwyr yn cael gostyngiad o 10% gyda'r cod ALUM2022

Gallwch weld y stoc yma