Cronfa galedi myfyrwyr

Ym Mhrifysgol Abertawe, cydnabyddwn y gallai llawer o’n myfyrwyr wynebu caledi ariannol rywbryd yn ystod eu hamser yn y Brifysgol. Nod Cronfa Abertawe yw cynyddu’r cymorth sydd ar gael yn y maes hwn, gan leihau’r pwysau ariannol sy’n gysylltiedig ag addysg amser llawn.

Gall cefnogi caledi myfyrwyr ddarparu cefnogaeth hanfodol a chymorth ariannol brys i fyfyrwyr dawnus sydd mewn angen ariannol annisgwyl heb fai arnynt eu hunain. 

Gyda’ch haelioni, gallwn wneud gwahaniaeth mawr i’n cenhedlaeth bresennol o fyfyrwyr yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe.

Stori Kate

‘Roeddwn i'n teimlo y gallwn i wir ganolbwyntio ar fy ngradd, heb boeni am yr hyn y byddwn yn ei fwyta’r diwrnod nesaf.'

Dychmygwch ddechrau eto mewn gwlad arall. Dechrau ymsefydlu o ran eich astudiaethau, dim ond i bopeth ddod i stop. Roedd Kate yn chwilio am gyflogaeth pan ddaeth Covid-19 a rhoi stop ar gyfleoedd gwaith o fewn dyddiau.

Gwyliwch stori Kate uchod i ddysgu sut  gwnaeth y Gronfa Caledi Myfyrwyr helpu i newid ei lwc.

'Dyw e’ ddim yn bwysig – y swm o arian – mae'n help gwych i'r myfyriwr  allu parhau â'i astudiaethau.'

Stori Rabhia

Mae Rabhia yn astudio ar gyfer ei gradd meistr mewn Astudiaethau Meddyg Cysylltiol gan ei bod hi'n angerddol am ddarparu gofal meddygol i gleifion mewn angen. A hithau’n awyddus i wneud ei rhan hi i gefnogi'r GIG yn ystod pandemig Covid, cyflwynodd gais am swydd fel brechwr. Fodd bynnag, oherwydd oedi y tu hwnt i'w rheolaeth hi, cafodd ei gadael heb incwm. Yn ffodus, roedd Rabhia wedi gallu cyflwyno cais am grant Caledi Myfyriwr.

Gwyliwch ei fideo i glywed ei neges ar gyfer ein rhoddwyr.