Gwneud gwahaniaeth gyda'n gilydd

Rhoi rhodd i’r Angen Mwyaf yw’r ffordd fwyaf gwerthfawr y gallwch gefnogi’r Brifysgol. Mae’r rhoddion hyn yn anghyfyngedig, sy’n golygu y gall y Brifysgol eu defnyddio yn y meysydd hynny lle mae angen cyllid fwyaf.

Os byddwch yn dewis rhoi rhodd anghyfyngedig, caiff ei chyfeirio i un o’r meysydd hynny a gefnogir gan Gronfa Abertawe. Mae’r meysydd hyn er budd ein myfyrwyr yn unig ac maent yn cynnwys Rhagoriaeth Academaidd, Profiad Myfyrwyr, Chwaraeon a Cherddoriaeth.

Diolch i chi am ein helpu ni i wneud gwahaniaeth. Gallwch ddarllen rhagor isod am rai o'r prosiectau gwych yr ydych wedi'u cefnogi.

Diolch i'r Angen Mwyaf...

Ysbrydoliaeth ar gyfer y dyfodol - adsefydlu ar gyfer dioddefwyr Covid hir

Ysbrydoliaeth ar gyfer y dyfodol - adsefydlu ar gyfer dioddefwyr Covid hir

Mae ymchwilwyr o'r ganolfan Ymchwil i Chwaraeon Cymhwysol, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth, gyda chymorth Cronfa'r Angen Mwyaf, wedi treialu triniaeth rad i'w chael gartref a allai helpu dioddefwyr Covid hir i adfer yn gyflym ac yn llawn. 

Darllenwch fwy yma...

Amrywio amddiffynfeydd morol Abertawe

Ymaddasu'n lleol at newid yn yr hinsawdd: amrywio amddiffynfeydd morol Abertawe

Mae rhoddion gan gyn-fyfyrwyr a chyfeillion yn cefnogi prosiect sy’n cynnwys y gymuned leol yn y gwaith o ddatblygu mamddiffynfeydd môr y dyfodol, er mwyn annog

bioamrywiaeth mewn ardal sy’n llawn trigolion a thwristiaid. Er mwyn cadw tai a phobl yn ddiogel, mae pobl yn adeiladu seilweithiau fel morgloddiau. O ganlyniad, rydyn ni’n creu’r hyn sy’n cael ei alw’n wasgfa arfordirol: rydyn ni’n lleihau’r ardal bontio rhwng y dŵr a’r tir.

Pam mae hyn yn broblem? Darllenwch fwy yma...

Atebion ar sail natur - helpu adfer o'r pandemig

Atebion ar sail natur - helpu adfer o'r pandemig

Gyda chymorth gan Gronfa'r Angen Mwyaf, mae ymchwilwyr o Adran y Biowyddorau Prifysgol Abertawe yn sefydlu prosiect ymchwil newydd i gysylltu plant ysgol â byd natur yn y byd ar ôl y pandemig. Bydd tua 700 o ddisgyblion ysgol ar draws 20 o ysgolion cynradd yn ne Cymru ac Wganda yn cymryd rhan uniongyrchol yn y prosiect. Darllenwch fwy yma...