Helpwch ni wrth inni gyfoethogi profiad y myfyrwyr, gan helpu unigolion dawnus i gyrraedd uchelfannau newydd.

Lansiodd Prifysgol Abertawe ei Strategaeth Entrepreneuriaeth Myfyrwyr gyntaf ym mis Tachwedd 2018 gyda'r genhadaeth o gefnogi'r HOLL fyfyrwyr i ddod yn raddedigion entrepreneuraidd ac arloesol, sy'n cyfrannu at gymdeithas a'r economi.

Gyda'ch cefnogaeth, gallwn sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau mentergarwch a chael mynediad at gymorth ariannol i'w helpu i ddechrau eu busnes mewn amgylchedd diogel.

Nathan John - Entrepreneur graddedig

Ble mae angen eich cymorth

“Mae llwyddiant yn magu llwyddiant, ac mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn dyst i gynnydd mewn arweinyddiaeth, brwdfrydedd a chreadigrwydd sydd wedi arwain at nifer o fyfyrwyr yn lansio eu busnesau, a mwy a mwy o fusnesau yn ffynnu, yn llythrennol (gweler isod am ragor o fanylion). Yn anffodus, roedd yn bosib cyllido 10% yn unig o’r £70,000 y gofynnwyd i ni amdano gan fyfyrwyr y llynedd i’w helpu gyda’u busnesau.”

Troi Syniadau’n Realiti

"Heb gyfleoedd Abertawe, ni fyddwn yn y sefyllfa rydw i ar hyn o bryd o ran fy ngyrfa, lle byddwn yn lansio cyn bo hir, ac ni fyddwn i wedi cael cymaint o gysylltiadau ym myd entrepreneuriaeth.

Cynigiodd Abertawe gymaint o gyfleoedd i mi fel trefnu taith i'r digwyddiad mentergarwch mwyaf i fyfyrwyr yn Ewrop, a oedd yn brofiad gwych ac a'm helpodd i rwydweithio â myfyrwyr o'r un meddylfryd, hacathon lle cwrddais i â Chlwb Pêl-droed Abertawe a bellach mae posibilrwydd y byddaf yn gallu gweithio mewn partneriaeth â nhw."

Tom Robertson, Sefydlydd GAIN APP

The Big Pitch 2018

Helpwch ni i Danio'r Llwybr i Ddyfodol Disgleiriach

Gyda'n gilydd, a chyda chymorth ein cyn-fyfyrwyr, gallwn greu cymuned arloesol ac entrepreneuraidd