Joe Charman

BUSNES NEWYDD MYFYRIWR

man with plane flying over head

Joe Charman, Busnes newydd myfyriwr, Pilot Plus

“Mae entrepreneuriaeth yn bwysig i mi. Cysylltais i â nifer o brifysgolion yn y DU a gofyn iddynt beth maen nhw'n ei wneud ar gyfer entrepreneuriaeth. Abertawe oedd â'r ateb gorau o'r holl brifysgolion."

Lansiodd Joe, a oedd yn fyfyriwr  BA mewn Rheolaeth Fusnes rhwng 2016 a 2020, Pilot Plus, fusnes efelychu hedfan yn 2015 ac mae'r cwmni wedi parhau i ehangu yn ystod ei amser ym Mhrifysgol Abertawe. Yn ogystal â pharhau â'i astudiaethau a chynnal busnes llwyddiannus, lansiodd Joe gymdeithas myfyrwyr  The Entrepreneurs Network ar y cyd ag eraill. Yn 2018, enillodd Joe gyllid sbarduno gwerth £2,000 yng nghystadleuaeth The Big Pitch Prifysgol Abertawe sydd wedi galluogi iddo ehangu ei fusnes drwy fuddsoddi mewn technoleg newydd.

Ar hyn o bryd, mae Joe yn cwblhau ei flwyddyn allan mewn diwydiant.