Terms and Conditions

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyflwyno ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae dau gynllun yn bodoli:

Ysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg Abertawe 2022-23:

  • Mae’r ysgoloriaethau ar agor i fyfyrwyr newydd ac i fyfyrwyr sydd eisoes yn y Brifysgol sy’n dewis astudio modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo cyfle yn hytrach na thrwy’r Saesneg
  • Mae 55 o ysgoloriaethau o £300 ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis astudio 40 credyd neu fwy mewn blwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Dim ond ar gyfer un blwyddyn y caiff yr ysgoloriaeth ei rhoi i bob myfyriwr sydd yn llwyddiannus – mi fydd angen cyflwyno cais newydd yn y flwyddyn academaidd nesaf er mwyn derbyn ysgoloriaeth bellach. Ni ellir cario ysgoloriaeth ymlaen i’r flwyddyn academaidd nesaf.
  • Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr Coleg y Gwyddorau; Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau; Y Coleg Peirianneg; Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd; Ysgol y Gyfraith; yr Ysgol Reolaeth a’r Ysgol Feddygaeth. Eithrir myfyrwyr y BA Cymraeg gan mai Cymraeg yw iaith y cwrs hwn yn gyfangwbl.
  • Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr Lefel Sylfaen, 4, 5, 6 a 7 ar gyfer 2019-20 yn unig.
  • Dyrennir yr ysgoloriaethau trwy gystadleuaeth. Bydd rhaid i bob myfyriwr lenwi ffurflen gais a chaiff y cyllid ei ddyrannu ar sail perfformiad graddau Lefel A neu y flwyddyn flaenorol o astudio yn y brifysgol ac ar sail datganiad personol yn y cais.
  • Gosodir amod ynghlwm wrth y cynllun hwn, sef bod disgwyl i’r myfyriwr sydd yn derbyn ysgoloriaeth weithredu fel llysgennad ar ran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd angen i’r unigolyn fod ar gael i gyfrannu at waith hyrwyddo’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ymhlith myfyrwyr a darpar fyfyrwyr trwy lwyfannau megis Diwrnodau Agored, ymweliadau ysgolion ac yn y blaen. Ad‐delir costau teithio allai fod ynghlwm wrth y gwaith hwn.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn aelodau o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am wybodaeth ac er mwyn ymaelodi, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk/ymaelodi. Ni chaiff ceisiadau gan ymgeiswyr sydd ddim yn aelodau eu hystyried.
  • Bydd gofyn i ymgeiswyr nodi pa fodiwlau y maent wedi cofrestru i’w hastudio a gall y rheini fod o fewn maes eu pwnc gradd neu y tu hwnt (gyda chytundeb Cyfarwyddwr y cwrs gradd a astudir).
  • Telir yr ysgoloriaeth mewn dau daliad, un ar ddiwedd semester un ac yna ar ddiwedd semester dau. Cynhelir dathliad ym mis Rhagfyr ar gyfer enillwyr yr ysgoloriaethau hyn.

 

 

 

 Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg 2022-23:

  • Mae’r bwrsariaethau ar agor i fyfyrwyr newydd ac i fyfyrwyr sydd eisoes yn y Brifysgol sy’n dewis astudio rhan o’u gradd trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cynigir bwrsariaeth o £100 i rai sydd yn dilyn o leiaf 5 credyd o fodiwl o trwy gyfrwng Cymraeg. Mae 8 bwrsariaeth ar gael.
  • Y meysydd cymwys ar gyfer y cynllun hwn yw Peirianneg, Mathemateg, Biowyddorau, Ffiseg, Meddygaeth, Biocemeg a Geneteg, Gwyddor Chwaraeon, Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwaith Cymdeithasol, Seicoleg ac Astudiaethau Busnes.
  • Dim ond ar gyfer un blwyddyn y caiff y fwrsariaeth ei rhoi i bob myfyriwr sydd yn llwyddiannus – mi fydd angen cyflwyno cais newydd yn y flwyddyn academaidd nesaf er mwyn derbyn bwrsariaeth bellach. Ni ellir cario bwrsariaeth ymlaen i’r flwyddyn academaidd nesaf.
  • Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr Lefel Sylfaen, 4, 5, 6 a 7 ar gyfer 2018-19 yn unig.
  • Cystadleuaeth fydd hon. Bydd rhaid i ymgeisydd wneud cais a chaiff y cyllid ei ddyrannu ar sail perfformiad graddau Lefel A neu y flwyddyn flaenorol o astudio yn y brifysgol ac ar y datganiad personol fydd yn y cais.
  • Bydd gofyn i ymgeiswyr nodi pa fodiwlau y maent wedi cofrestru i’w hastudio ag iddynt elfen cyfrwng Cymraeg a gall y rheini fod o fewn maes eu pwnc gradd neu y tu hwnt (gyda chytundeb Cyfarwyddwr y cwrs gradd a astudir).
  • Caiff y cyllid ei dalu i’r myfyriwr ar ddiwedd y semester y cwblheir y modiwl cyfrwng Cymraeg er mwyn sicrhau bod yr oriau’n cael eu cyflawni gan y myfyriwr. Cynhelir dathliad ym mis Rhagfyr ar gyfer enillwyr yr ysgoloriaethau hyn.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn aelodau o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am wybodaeth ac er mwyn ymaelodi, ewch i colegcymraeg.ac.uk/ymaelodi. Ni chaiff ceisiadau gan ymgeiswyr sydd ddim yn aelodau eu hystyried.

 

Mae’r Cwrs Datblygu Gyrfa ar gael i’ch helpu chi i wneud cais am yr ysgoloriaethau. Mae ei uned ‘Ffurflenni Cais a Datganiadau Personol’ yn cynnwys gwybodaeth a chyngor defnyddiol i’ch helpu chi i ysgrifennu cais cryf.

Mae gan y cwrs 16 uned sy’n canolbwyntio ar bynciau gwahanol, gan gynnwys:

  • Cwblhau ffurflenni cais a datganiadau personol
  • Ysgrifennu CVs, proffil LinkedIn a llythyrau eglurhaol
  • Paratoi ar gyfer cyfweliadau
  • Eich opsiynau gyrfa
  • Chwilio am swyddi
  • Gwneud penderfyniadau

Cofrestrwch ar y cwrs a dysgu mwy yma!

Ymholiadau pellach

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â

Indeg Llewelyn Owen, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol